Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Cyfyngiadau ychwanegol i helpu yn y frwydr yn erbyn ‘ail don’ yng ngogledd Cymru

Published: 30/09/2020

Mae pedwar cyngor yng ngogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill yn cefnogi cyfyngiadau ychwanegol er mwyn helpu i frwydro Coronafeirws yn y rhanbarth.

O 6pm ddydd Iau ymlaen, bydd cyfyngiadau ychwanegol yn cael eu cyflwyno yn siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Golygai’r cyfyngiadau na fydd trigolion yn cael teithio allan o'r sir y maent yn byw ynddi heb reswm dilys.

Y gobaith i’r partneriaid yw drwy gymryd y camau hyn yn gynnar gellir arafu'r cynnydd mewn achosion sydd wedi ei weld dros yr wythnos ddiwethaf - gan helpu i ddiogelu pobl leol rhag y feirws, yn ogystal ag amddiffyn busnesau rhag mesurau cloi llymach i’r dyfodol.

Mae gan y ddau gyngor arall yng ngogledd Cymru – sef Ynys Môn a Gwynedd – gyfraddau is o’r Coronafeirws ar hyn o bryd, ond maent yn parhau i gadw llygaid fanwl ar y sefyllfa.

Dywed y Cynghorydd Sam Rowlands, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy:

“Rydym i gyd yn gwybod bod y ffigyrau’n codi, felly mae cymryd camau cynnar i reoli lledaeniad y firws ac i amddiffyn iechyd pobl yn hanfodol. Trwy gefnogi mesurau ychwanegol nawr, mae gennym well siawns o wyrdroi’r sefyllfa, gan gadw pobl yn ddiogel.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae’n gwneud synnwyr i Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam weithio efo’i gilydd o ystyried y cynnydd mewn achosion. Fodd bynnag, mae’n rwy’n pwysleisio y bydd y cyfyngiadau’n golygu na fydd preswylwyr yn cael teithio’n rhydd rhwng y siroedd dan sylw, oni bai bod ganddyn nhw reswm dilys.”

O 6pm ddydd Iau daw’r cyfyngiadau canlynol i rym:

  • Ni chaniateir i bobl ddod i mewn na gadael y sir y maent yn byw ynddi (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam) heb reswm da, er enghraifft teithio i'r gwaith neu addysg;
  • Am y tro, dim ond tu allan yn yr awyr agored y bydd hawl gan bobl i gwrdd ac eraill nad ydynt yn byw yn yr un ty. Ni chaniateir ffurfio na bod yn rhan o gartrefi estynedig (a elwir yn “swigen” hefyd weithiau).

Gofynnir hefyd i breswylwyr gofio cadw at y canllawiau presennol, sy'n cynnwys:

  • Aros gartref os oes gennych symptomau Coronafeirws a threfnu prawf ar unwaith.
  • Gweithio gartref os yn bosib.
  • Osgoi rhannu ceir.
  • Rhaid i'r rhai hyn na 11 oed wisgo gorchudd wyneb neu fwgwd mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Gorchuddiwch eich ceg os ydych yn tisian neu'n pesychu.
  • Cadwch eich dwylo'n lân.
  • Rhaid i fusnesau lletygarwch yng Nghymru gau erbyn 10pm, gyda gwasanaeth bwrdd yn unig. Rhaid i bob siop roi'r gorau i werthu alcohol o 10pm.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Rydym yn gwybod y bydd llawer o fusnesau yn poeni am gyfyngiadau pellach, ond trwy gymryd y mesurau hyn nawr, rydym yn gobeithio y gallwn eu hamddiffyn rhag yr angen am gyfyngiadau tynnach yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ac i ddwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru am gefnogaeth ychwanegol i fusnesau sy’n cael eu heffeithio gan y rheoliadau llymach hyn."

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae'n gydbwysedd rhwng iechyd pobl a'r economi, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w gael yn iawn.

“Bydd y mesurau hyn yn cael eu hadolygu’n gyson wrth i ni geisio rheoli lledaeniad y firws yn siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Doedd gennym ddim dewis arall ond cefnogi gweithredu’n gynnar er mwyn atal lledaeniad y feirws. Mae cyfradd yr achosion yn lleol yng nghynnydd y feirws wedi dyblu dros y pythefnos diwethaf. Mae disgwyl y bydd yn parhau i godi. Oni bai ein bod yn gweithredu’n lleol, yna gallai’r sefyllfa waethygu allan o reolaeth. Rydym ni wir yn deall bod hyn yn golygu fod yn rhaid i bawb wneud aberthau. Rydym ni’n apelio ar i bawb fod yn gyfrifol ac i ddilyn y cyfyngiadau lleol.”

Mae manylion llawn am y cyfyngiadau, gan gynnwys cwestiynau cyffredin, ar gael ar llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol.