Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Gofal Plant - Diweddariad 

Published: 18/09/2020

Ar 22 Medi bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried y Rhaglen Gofal Plant arfaethedig a chadarnhau eu cefnogaeth i’r meini prawf a ddefnyddir i flaenoriaethu prosiectau. Bydd arnyn nhw hefyd angen cefnogi dull seiliedig ar raglen er mwyn gwneud y gorau o’r cyfleoedd ariannu. 

Pan agorwyd y cynllun grant cyfalaf hwn gan Lywodraeth Cymru roedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno datganiadau o ddiddordeb yn fyr. Ar ôl cyflwyno datganiad o ddiddordeb cyn y dyddiad cau, aeth y Cyngor ati i wneud mwy o waith manylach. Daeth y gwaith hwn i’r casgliad bod cyfanswm costau’r holl brosiectau yn uwch na’r dyraniad ariannol.  

Mae’r prosiectau wedi’u blaenoriaethu i gyd-fynd â dyraniad ariannol Llywodraeth Cymru, yn defnyddio meini prawf wedi’u datblygu’n lleol. Mae dull cydlynol ar waith i uno ystod o becynnau cyllid cyfalaf i greu un rhaglen er mwyn gwneud y gorau o’r buddsoddiad.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys pecynnau cyllid cyfalaf gwahanol i wneud yn fawr o’r buddsoddiad ar sawl safle ysgol. Mae’r ffrydiau ariannu yn cynnwys: Grant Gofal Plant LlC, Grant Cyfrwng Cymraeg LlC, Ysgolion yr 21ain Ganrif, Dechrau'n Deg a chyllid cyfalaf Cyngor Sir y Fflint. 

Mae rhaglen Llywodraeth Cymru yn darparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar wedi’i ariannu gan y llywodraeth i blant 3 a 4 oed rhieni sy’n gweithio, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd y 30 awr yn cynnwys o leiaf 10 awr o Addysg Gynnar y Cyfnod Sylfaen (Hawl Bore Oes) a hyd at 20 awr o ofal plant gyda darparwr cofrestredig.

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae rhieni wedi dweud wrthym ni fod arnyn nhw, yn ddelfrydol, eisiau gollwng eu plant a’u nôl o’r un safle a chael mynediad i ofal plant di-dor, ond bydd y ddarpariaeth gofal estynedig rhwng ysgolion a darparwyr nas cynhelir yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r ateb i rai plant a rhieni. 

“Prif ddiben rhaglen Sir y Fflint ydi hwyluso a chefnogi lleoli darpariaeth cyfnod sylfaen a gofal plant yn yr un lle pan fo’n bosibl.”

Mae 12 ysgol wedi’i nodi yn y rhaglen. Mae’r Cyngor wedi comisiynu Wynne Construction ar gyfer prosiect Ysgol Glanrafon, y prosiect Dechrau'n Deg yng Nghanolfan Deuluoedd Aston a’r rhaglen gofal plant ar gontractau dylunio ac adeiladu dau gam.

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:

“Ar ôl adolygu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer ffrydiau gwaith amrywiol, rydym ni'n credu y byddai amrywiad ffurfiol o gyllid yn ffordd well o ddefnyddio adnoddau a chyfrannu at reolaeth effeithiol y rhaglen, gan ein galluogi i fwrw ymlaen â'r prosiectau sydd wedi'u blaenoriaethu. Felly anfonwyd cais am amrywiad ffurfiol i’r cyllid at Lywodraeth Cymru ac mae hwnnw’n cael ei ystyried ar hyn o bryd.”