Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu’r Rhwydwaith Bysiau

Published: 18/09/2020

Ar 22 Medi bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo canlyniad yr adolygiad o’r Trefniadau Teithio Lleol, a oedd yn angenrheidiol oherwydd Covid-19 a cholli gwasanaethau bysiau masnachol lleol. 

Nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol nac unrhyw ffurf arall o gludiant cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’n ddyletswydd statudol ar y Cyngor i adolygu’r rhwydwaith bysiau ac ymyrryd pan fo’n briodol. 

Ym mis Gorffennaf 2018 cymeradwyodd y Cabinet fodel cludiant newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau, a oedd yn cynnwys rhwydwaith bysiau craidd wedi’i gefnogi gan Drefniadau Teithio Lleol cynaliadwy. Mae’r rhwydwaith craidd yn cynnwys nifer o gyrchfannau (canolfannau) allweddol, fel prif drefi neu gyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus / gorsafoedd rheilffordd â chysylltiad uniongyrchol a rheolaidd gyda gwasanaethau bysiau sy’n rhedeg rhwng y canolfannau i gysylltu teithwyr â chyrchfannau allweddol eraill i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, siopau a chyfleusterau iechyd, cymdeithasol a hamdden. Mae’r rhwydwaith craidd yn cynnwys gwasanaethau bysiau masnachol yn bennaf. Fodd bynnag, mae rhywfaint o gefnogaeth yn parhau i gael ei darparu i sicrhau bod cysylltiadau yn cael eu cadw a bod gwasanaethau rheolaidd o ansawdd uchel yn parhau i gysylltu’r canolfannau allweddol ar hyd y rhwydwaith. Mae’r rhwydwaith craidd yma yn cael ei gefnogi gan Drefniadau Teithio Lleol cynaliadwy sydd wedi’u cyflwyno’n llwyddiannus mewn sawl ardal yn y sir. 

Wrth i fwy o wasanaethau masnachol gael eu hatal gan weithredwyr, roedd angen cynnal adolygiad o'r gwasanaethau cludiant lleol presennol er mwyn gallu defnyddio'r gwasanaethau hynny’n well i ddarparu cysylltiadau cludiant hanfodol i breswylwyr wedi'u heffeithio gan golli’r gwasanaethau masnachol hyn.  

Meddai Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae Covid-19 yn amlwg wedi amharu ar yr adolygiad o’r Trefniadau Teithio Lleol. Ers i’r cyfnod clo ddod i ben, rydym ni wedi gorfod cael llai o deithwyr ar gerbydau a chyhoeddi amserlenni diwygiedig i fodloni gofynion teithwyr, ond mae pethau i’w gweld yn gweithio’n dda. Er ein bod ni yn y cyfnod adfer, mae gweithredwyr wedi adrodd cynnydd yn hyder defnyddwyr cludiant. 

“Bydd adolygiad o wasanaethau Trefniadau Teithio Lleol yn Nhreffynnon a’r ardal gyfagos yn dechrau cyn bo hir, a dw i’n falch o ddweud bod y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i brynu dau fys trydan ar gyfer gwasanaethau LT7 ac LT4. Byddan nhw wedi’u lleoli ym Mwcle ac mi fydd hi’n wych gweld y cerbydau yn cael eu pweru gan ffynhonnell ynni’r Cyngor o fferm solar gyfagos.”

Mae adolygiad y Cyngor o Drefniadau Teithio Lleol yn parhau i fod yn broses barhaus ac mae cynigion pellach yn cael eu harchwilio ar gyfer y misoedd nesaf.