Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Peidio â chodi am barcio ym Meysydd Parcio Canol y Dref

Published: 18/09/2020

Ar 22 Medi bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo cynnig i estyn y cynllun i beidio â chodi am barcio ym meysydd parcio canol y dref Sir y Fflint tan 31 Rhagfyr 2020.

Bu i’r Cyngor stopio codi am barcio ymhob maes parcio talu ac arddangos ar 25 Mawrth ac yn dilyn y penderfyniad i ailagor siopau dianghenraid ar 22 Mehefin, penderfynwyd estyn y cynllun parcio am ddim tan 31 Awst.

Cynigir rwan bod y cynllun yn cael ei estyn tan 31 Rhagfyr, 

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Rydw i’n croesawu’r cynnig a’r bwriad i gefnogi’r gwaith ar draws y Cyngor i ailagor canol trefi ac annog siopwyr ac ymwelwyr i ddychwelyd a chefnogi busnesau lleol. Bydd y dull hwn yn golygu y caiff pobl barcio am ddim dros gyfnod y Nadolig, a fydd hefyd yn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr.”

Argymhellir y dylai meysydd parcio arhosiad byr barhau i gael eu rheoli ar ffurf tocyn Talu ac Arddangos yn ffenestr y cerbyd i sicrhau bod pobl yn y defnyddio’r gofodau parcio agosaf at ganol y dref a bod yr holl gyfyngiadau eraill, fel arddangos bathodyn glas mewn bae barcio i bobl anabl, yn dal yn berthnasol. 

Mae’r golled ariannol yn sgil peidio â chodi am barcio yn cael effaith uniongyrchol ar gyllideb y Cyngor ac mae meysydd parcio yn parhau i achosi costau i’r Cyngor er na chodir tâl am barcio e.e. costau cynnal a chadw, goleuadau stryd a chyfraddau busnes. Bydd incwm ffioedd parcio a gollir yn parhau i gael ei gynnwys yn hawliadau Covid-19 y Cyngor.