Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad o’r Broses Ymgynghori ar gyfer Cyflwyno Mesurau Gostegu Traffig a Mesurau Diogelwch Eraill ar y Briffordd

Published: 18/09/2020

Ar 22 Medi bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo dull newydd arfaethedig o ymgynghori â chymunedau ynghylch cynlluniau gostegu traffig.

Mae’r broses bresennol yn gofyn i swyddogion drafod cynigion gyda’r Cynghorydd neu’r Cynghorwyr lleol cyn ymgysylltu’n uniongyrchol â phreswylwyr ar ffurf arddangosfa gyhoeddus a phleidlais. Mae cyfyngiadau Covid-19 yn ein hatal rhag cynnal digwyddiadau o’r fath ac felly mae’r trefniadau newydd yn gofyn am sylwadau ar-lein cyn cynnig apwyntiad i breswylwyr a effeithir arnynt i gwrdd â swyddogion prosiect i drafod eu pryderon, gan gadw pellter cymdeithasol.

Meddai Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Ar ôl nodi pryderon gyda’r broses bresennol yn sgil y sefyllfa sydd ohoni, roedd angen system ymgynghori newydd ar gyfer cynlluniau diogelwch pwysig. Yn y dyfodol, ar ôl derbyn cymeradwyaeth yr aelod lleol, bydd dewisiadau yn cael eu darparu i’r Cyngor Cymuned a’r gymuned er mwyn derbyn eu sylwadau ar-lein. Ar ôl derbyn dewis a gytunir arno bydd y cynllun yn cael ei hysbysebu’n ffurfiol. Mae modd i’r rheiny nad ydyn nhw'n gallu defnyddio'r system ar-lein gwrdd â swyddogion i drafod eu pryderon."

Ar gyfer pob Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a ystyrir yn briodol, bydd y swyddogion yn siarad gyda’r Cynghorydd Sir lleol yn gyntaf. Os yw’n gefnogol, bydd y cynigion yn destun ymgynghoriad statudol 21 diwrnod a fydd yn cynnwys hysbysiadau cyhoeddus ar y safle, hysbysebion yn y wasg leol a gwybodaeth am y cynigion ar wefan y Cyngor.