Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint i’w Archwilio gan y Cyhoedd 

Published: 21/09/2020

Yn y cyfarfod ar 22 Medi, bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint argymell i’r Cyngor eu bod yn cyflwyno’r CDLl i Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gynllunio Cymru ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus.

Cafodd y CDLl ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan y Cyngor ar 23 Gorffennaf 2019. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 30 Medi ac 11 Tachwedd 2019 gan ddenu 1281 o sylwadau gan 657 o ymatebwyr gwahanol.  

Mae’r ddogfen strategaeth a pholisi pwysig y Cyngor yn nodi’r fframwaith gynllunio yn Sir y Fflint ac mae’n nodi’r nodau canlynol: 

  • darparu cyfleoedd i gyflwyno rhwng 8-10,000 o swyddi trwy gynnal portffolio hyfyw o dir cyflogaeth, i gefnogi dyheadau twf rhanbarthol ehangach; 
  • darparu 6,950 o gartrefi newydd dros gyfnod y cynllun; 
  • hwyluso cyflwyno dau ymrwymiad safle strategol hir dymor ym Mhorth y Gogledd a Warren Hall; 
  • lleoli twf cynaliadwy yng nghanolfannau gwasanaeth y Sir ac aneddiadau cynaliadwy yn seiliedig ar hierarchaeth anheddiad;
  • darparu datrysiad pragmataidd i anghenion tai fforddiadwy a thai arbenigol;
  • lleihau’r angen i ddiwygio rhwystrau glas Sir y Fflint er mwyn hwyluso datblygu cynaliadwy;
  • sicrhau bod safleoedd yn hyfyw ac yn gyflawnadwy, a sicrhau bod yr isadeiledd yn gallu ymdopi â thwf yn y dyfodol.

Mae’n rhaid cyflwyno’r sylwadau a dderbynnir, ynghyd â nifer o ddogfennau eraill, i LlC a’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus unwaith y bydd y Cyngor wedi ystyried unrhyw sylwadau. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod ar 29 Medi i ystyried hyn. 

Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol ar y gweill i’r CDLl, megis dileu safleoedd a/neu cynnwys safleoedd newydd, gan na chafodd unrhyw dystiolaeth gadarn ei chyflwyno yn ystod yr ymgynghoriad a fyddai’n gwarantu’r angen am newidiadau o’r fath, a gan y gallai newid sylweddol i’r CDLl fygwth ei gadernid.   

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, credwn fod y CDLl yn parhau i ddarparu sail gadarn i’w gyflwyno i LlC a’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Archwiliad Annibynnol yng ngwydd y Cyhoedd.”

“Er y gwnaed gwrthwynebiadau, yn arbennig mewn perthynas â dyraniadau tai, mae’n gyfrifoldeb ar y Cyngor i ddarparu safleoedd o’r fath pan fo angen wedi’i nodi a phan na ystyrir bod y gwrthwynebiadau a wnaed yn bwysicach na’r gyfrifoldeb honno neu’n cwestiynu cadernid y safleoedd dynodedig. Pwrpas y CDLl yw ceisio bodloni anghenion Sir y Fflint yn y modd mwyaf cynaliadwy posibl.”

Bydd Arolygydd Annibynnol yn ystyried cadernid y CDLl ochr yn ochr â’r sylwadau a wnaed gan y cyhoedd a phartïon eraill yn ystod gwrandawiadau’r Archwiliad Cyhoeddus, a gaiff eu cynnal dros nifer o wythnosau yn fuan yn 2021. Dylid cyflwyno’r CDLl erbyn mis Hydref 2020 er mwyn i hyn ddigwydd.  Caiff y CDLl ei gyflwyno’n ffurfiol ym mis Hydref os bydd cyfarfod y Cyngor Sir ar 29 Medi yn argymell hyn. 

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ymrwymo i ddarparu Adroddiad yr Arolygydd i’r Cyngor o fewn 12 mis o gyflwyno’r CDLl. 

Unwaith y bydd y Cyngor wedi derbyn Adroddiad Terfynol yr Arolygydd, mae’n rhaid i’r adroddiad gael ei gyhoeddi a’i gymeradwyo mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn er mwyn mabwysiadu’r CDLl yn ffurfiol yn unol â natur terfynol Adroddiad yr Arolygydd.