Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw

Published: 18/09/2020

Ddydd Mawrth 22 Medi bydd Cabinet Sir y Fflint yn adolygu sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21.

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried sefyllfa ddiweddaraf Cyllid Grant Argyfwng Llywodraeth Cymru a roddwyd o’r neilltu i helpu’r llywodraeth leol ymdopi gydag effaith ariannol y pandemig.

Mae’r adroddiad yn dangos diffyg gweithredol o £0.983 miliwn yn ystod y flwyddyn. Byddai diffyg o’r fath ymhell o fewn y terfynau a osodir gan y Cyngor ar gyfer amrywiadau i'w gyllideb flynyddol o £260 miliwn. Nid yw’r ffigyrau hyn yn cynnwys effaith bosibl cynnydd yn y galw am Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor nac unrhyw ddiffyg yn sgil methu cyrraedd y targed o ran incwm Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn. 

Mae’r Cyngor wedi rheoli ei gyllid yn dynn ac yn dda yn ystod sefyllfa heriol yr argyfwng.  

Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fynd i’r afael â’r pwysau yn sgil costau’r argyfwng a’r ymateb yr oedd ei angen gan yr holl gynghorau. Rhagwelir y bydd rhagor o gymorth ariannol ar gael o’r pecyn cyllido £264 miliwn a gyhoeddwyd fis Awst.