Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canol trefi Sir y Fflint ar agor am fusnes

Published: 16/09/2020

Ers i gyfyngiadau’r cyfnod glo lacio ychydig ddiwedd mis Mehefin, mae pob ymdrech wedi cael ei wneud i helpu busnesau ailagor ac i ddychwelyd canol trefi Sir y Fflint yn ôl i'r arfer. Mae busnesau wedi gorfod gwneud newidiadau sylweddol er mwyn cydymffurfio gyda'r rheoliadau sydd wedi cael eu rhoi ar waith i’n cadw ni gyd yn ddiogel.  

Mae busnesau lleol yn poeni am breswylwyr a chymunedau lleol y maent yn eu gwasanaethu ac mae sawl wedi canfod ffyrdd arloesol, neu wedi mynd yr ail filltir i ddarparu beth sydd ei angen ar gwsmeriaid yn ystod y cyfnod hwn. 

Mae angen i ni ddangos ein bod yn poeni amdanyn nhw hefyd a chynnig ein cefnogaeth iddynt drwy siopa, gwario a bwyta allan yn lleol i helpu i’n ganol ein trefi adfer. Mae mesurau pellter cymdeithasol ar waith i sicrhau bod pobl sy’n ymweld â'n trefi nid yn unig yn ddiogel, ond yn teimlo'n gyfforddus ac yn gallu ymlacio hefyd. 

Wrth ymweld â chanol ein trefi, cadwch at unrhyw fesurau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith, gan gynnwys systemau un ffordd a chiwio tu mewn a thu allan i'r eiddo, yn ogystal ag ar draws ein rhwydwaith cludiant cyhoeddus.

Mae cyfleusterau ac amwynderau allweddol megis toiledau canol tref ar agor, ac maent yn cael eu glanhau yn rheolaidd; ac mae atal ffioedd maes parcio dros dro yn reswm arall pam fod siopa canol tref yn gynnig deniadol.

Fodd bynnag, nid allwn fod yn hunanfodlon, ac mae'n hollbwysig ein bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn gwarchod ein hunain ac eraill:

• Os ydych yn teimlo'n sâl, mae'n rhaid i ni aros gartref

• Mae’n rhaid i ni gadw pellter cymdeithasol rhag pob eraill

• Mae’n rhaid i ni wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do ac mewn siopau 

• Dylem osgoi cyffwrdd arwynebau a’n hwynebau

• Dylem olchi ein dwylo yn rheolaidd, yn enwedig cyn mynd ac allan ac ar ôl dychwelyd.

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd;

Mae cymryd mantais o’n siopau, busnesau lletygarwch a chyfleusterau hamdden sydd i gyd o safon uchel, nid yn unig yn chwistrellu arian angenrheidiol i'n heconomi leol, ond hefyd yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd."