Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Cyngor Sir y Fflint yn galw ar bobl leol: Bydd Wych, Ailgylcha. Gyda’n gilydd gallwn gael Cymru i rif un!

Published: 21/09/2020

Poster 6 3rd going for 1st.jpgEr bod Cymru’n wlad fach, pan mae’n dod i ailgylchu, rydyn ni’n cystadlu gyda’r goreuon. Rydyn ni’n drydydd ar restr ailgylchwyr gorau’r byd, a nawr mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi’r ymgyrch Cymru gyfan i’n cael ni i’r rhif un. 

Dros y degawd diwethaf, mae ailgylchu yn Sir y Fflint wedi ffynnu. Rydyn ni bellach yn ailgylchu 66% o’n gwastraff, i fyny o 43% yn 2010. Ond er mwyn helpu Cymru i gyrraedd y brig, mae angen i ni wneud mwy nag erioed, fel y mae Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas yn esbonio:

“Mae ailgylchu bellach yn ailnatur yn Sir y Fflint ac mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ailgylchu bob wythnos. Rydyn ni’n ailgylchu ein croen ffrwythau a llysiau, plisgyn wy, bagiau te a gwastraff bwyd arall yn ein cadis gwastraff bwyd; yn ailgylchu o bob ystafell yn y cartref ac yn ailgylchu’r eitemau lletchwith hynny fel caniau aerosol gwag.

“Fe ddylen ni fod yn falch o’n hymdrechion ailgylchu, ond rhaid i ni ddal ati â’n gwaith da. Gadewch i ni barhau i ailgylchu popeth allwn ni o bob twll a chornel o’r cartref a helpu Cymru i gyrraedd rhif un.”

I ddysgu mwy am yr ailgylchwyr gwych, ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk, cadwch lygad am yr hysbysebion ar y teledu, ar fysiau ac ar hysbysfyrddau ac yn y cyfryngau cymdeithasol ledled Cymru neu ymunwch yn y sgwrs gan ddefnyddio’r hashnod #ailgylchwyrgwych

Awgrymiadau ar sut i gael Cymru i rif un:

  • walesrecycles.org.uk/cy/all-i-ei-ailgylchu
  • Ailgylchu ein gwastraff bwyd yw un o’r ffyrdd hawsaf o roi hwb i’n cyfradd ailgylchu. Rhowch unrhyw wastraff bwyd – waeth pa mor fach – yn eich cadi bwyd i sicrhau ei fod yn cael ei gasglu bob wythnos 
  • Nid dim ond yn y gegin mae ailgylchu – cofiwch ailgylchu yn eich ystafelloedd eraill hefyd. Byddwch chi’n synnu faint o wastraff ystafell molchi fel poteli siampw, cyflyrydd, sebon a gel cawod y gellir eu hailgylchu
  • Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod modd ailgylchu poteli dwr, caniau, a phapur a chardbord, ond cofiwch y gallwch chi ailgylchu eitemau mwy anghyffredin hefyd, fel caniau aerosol gwag. Ac os nad ydych chi’n siwr allwch chi neu na allwch ei ailgylchu, ewch i siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Bins-Recycling-and-Waste/What-can-and-cannot-be-recycled.aspx
  • Cofiwch wasgu caniau, potiau, tybiau a chynwysyddion i arbed gofod yn eich bag, bin, bocs neu gadis ailgylchu. A rinsiwch nhw’n gyflym cyn eu hailgylchu – does dim angen eu dal o dan y tap, bydd eu swilio nhw’n gyflym yn y bowlen golchi llestri yn gwneud y tro’n iawn
  • Er mwyn i Gymru gyrraedd rhif un, rhaid i ni i gyd chwarae’n rhan. Mae hynny’n golygu lledaenu’r gair ar y cyfryngau cymdeithasol trwy rannu eich lluniau a’ch awgrymiadau ailgylchu gan ddefnyddio’r hashnod #ailgylchwyrgwych

 Poster 1 Collection crews -woman.jpg