Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


DATGANIAD I'R WASG GAN FFEDERASIWN PENAETHIAID YSGOLION UWCHRADD GOGLEDD CYMRU

Published: 14/08/2020

Canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol

Ni allwn orbwysleisio cymaint yw ein siom, ein dryswch a'n pryder am y canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol a gafodd ein hoedolion ifanc heddiw.   

Er bod data cenedlaethol ar gyfer Cymru yn dangos ychydig o welliant, nid yw hyn yn adlewyrchu yn llawn y realiti mewn ysgolion. Mae gwahaniaethau mawr yn neilliannau unigolion nad oes modd i ni eu holrhain, eu cyfiawnhau na'u hegluro. Mae graddau disgyblion wedi symud i fyny ac i lawr, mewn ffyrdd nad ydym yn gallu eu hamgyffred. 

Gofynnwyd i ysgolion ystyried yr holl ddata o'r profion mewnol ac allanol i restru, mewn trefn, graddau dysgwyr wedi'u hasesu gan ganolfan. Gwnaethom hyn gyda phroffesiynoldeb a thegwch i'r myfyrwyr y buom yn eu cefnogi am y saith mlynedd diwethaf. Mewn llawer o feysydd, cafodd y data hwn ei wrthod, ei ddibrisio a'i ddiystyru. Diystyrwyd ein rhestri ni a symudwyd myfyrwyr oddi mewn iddynt, gan olygu bod y dyraniad gradd yn amhosibl i'w ddirnad ac yn annheg.  

Mae llawer o brifysgolion wedi israddio eu cynigion oherwydd absenoldeb myfyrwyr rhyngwladol. Felly mae mwy o lefydd ar gael, ac yn ffodus, bydd cymaint o'r oedolion ifanc yn gallu mynd i'r brifysgol o'u dewis. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon. Bydd graddau ein disgyblion yn aros gyda nhw am weddill eu hoes, byddant ar eu CV am byth. Maent eisoes dan anfantais oherwydd COVID-19, ond bydd bywyd ar ôl COVID, mewn gwlad sydd yn wynebu dirwasgiad, yn golygu y bydd eu deilliannau hyd yn oed yn bwysicach nag erioed wrth iddynt gamu i farchnad lafur heriol. Gweithiodd ein myfyrwyr am y graddau hyn, ac maent yn deilwng ohonynt; mae algorithm sydd yn diystyru hyn yn anfoesol. Nawr oedd yr amser i ymddiried, fwy nag erioed. 

Addawyd i’r proffesiwn y byddai trafodaeth ynglyn ag unrhyw anghysondeb mewn data ysgol, er mwyn caniatáu i ysgolion ddarparu tystiolaeth i gyfiawnhau'r graddau wedi'u hasesu gan ganolfan. Ni ddigwyddodd hyn - ni roddwyd cyfle i ni ddarparu tystiolaeth ac nid oes unrhyw sgwrs wedi bod. Model ystadegol oedd hwn, yn or-ddibynnol ar ddeilliannau Uwch Gyfrannol a data hanesyddol, ac yn ddiystyriol o farn proffesiwn a fu'n cefnogi eu myfyrwyr dros lawer o flynyddoedd.

Roeddem yn ddiolchgar am gyhoeddiad CBAC ynglyn ag adolygu'r system apêl a honno'n anymarferol fel ag y mae hi, ac yn cyfyngu ar ein gallu i herio annhegwch y deilliannau hyn.  Diwrnod canlyniadau Safon Uwch yw un o'r rhai hapusaf yn y flwyddyn, fel arfer. Eleni, roedd ein plant wedi'u brifo a'u drysu, ac yn pendroni beth aeth o'i le, fel ninnau. 

Mae canlyniadau'r wythnos hon wedi herio ein hyder yn y system ac yn gwneud i ni amau'r strwythur yr oeddem gynt yn ymddiried ynddi; er hynny, nid oes geiriau i ddisgrifio ein hofnau am ganlyniadau TGAU wythnos nesaf. Gofynnwn am newidiadau i ddigwydd nawr i amddiffyn cyfleoedd bywyd a lles ein plant, ac osgoi'r dryswch a'r tor-calon y bu'n rhaid i'n myfyrwyr Safon Uwch wynebu.