Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad i'r Wasg Ranbarthol

Published: 13/08/2020

Dymuna'r chwe deilydd portffolio addysg sydd yn cynrychioli chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, eu Prif Swyddogion, y Consortiwm Gwella Ysgolion Rhanbarthol,  GwE a phenaethiaid uwchradd longyfarch holl ddysgwyr Blwyddyn 12 ac 13 ar eu llwyddiannau eleni. Gwyddom y bydd rhai dysgwyr yn hapus iawn gyda'u canlyniadau a fydd yn rhoi modd iddynt fynd ymlaen i'r camau nesaf yn eu gyrfa.  

Er hynny, o safbwynt y dysgwyr hynny, eu rhieni a'r ysgolion sydd wedi'u siomi, ac efallai wedi cael cam gan y broses safoni a ddefnyddiwyd yma yng Nghymru, hoffem gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fydd disgyblion Gogledd Cymru dan anfantais nac yn colli cyfleoedd i fynd i'r brifysgol, addysg bellach na llwybr cyflogaeth o'u dewis nhw pan gânt eu cymharu â'u cyfoedion mewn gwledydd eraill yn y DU, yr Alban yn enwedig. Yn sgil cael y canlyniadau y bore yma, dywed nifer sylweddol o ysgolion nad oes ganddynt ddealltwriaeth na hyder yn y broses safoni a fabwysiadwyd yng Nghymru, sydd wedi arwain at gryn anghysondebau ar lefel dysgwyr a phynciau mewn ysgolion unigol. Mae'r diffyg tryloywder yn bryderus iawn. 

Cymhlethwyd y mater ymhellach gyda'r troeon pedol sylweddol a welwyd yn yr Alban a Lloegr.  Mae angen cysondeb ar draws cyrff cymwysterau y DU nawr yn fwy nag erioed o'r blaen. Yng Nghymru, ymddengys bod perygl difrifol bod amddiffyn brand arholiad yn bwysicach na chydnabod anghenion dysgwyr, yn enwedig y rhai mwyaf bregus yn yr amgylchiadau hyn nas gwelwyd mo'u tebyg erioed o'r blaen. Nid yw’r cyhoeddiad a ddaeth yn hwyr neithiwr na  fydd gradd Safon Uwch derfynol dysgwr yn is na'u gradd Uwch Gyfrannol, yn lleihau ein pryderon am y broses safoni. Yn wir, mae'n awgrymu i raddau, nad yw Llywodraeth Cymru ei hun yn gyfforddus â deilliannau'r broses a fabwysiadwyd. Rydym hefyd yn bryderus, ac yn cwestiynu os yw'r broses apelio yn addas i'r diben mwyach.  

Rydym ni, y gymuned addysg yng Ngogledd Cymru, yn arbennig o bryderus am les emosiynol dysgwyr, yn enwedig y rhai mwyaf bregus. Gallai'r broses hon fod wedi gwneud drwg i gyfleoedd bywyd y dysgwyr hyn i fynd i'r brifysgol, addysg neu lwybr cyflogaeth o'u dewis.  

Mae arnom angen sicrwydd hefyd gan Lywodraeth Cymru na fydd prifysgolion a'r broses glirio yn llesteirio ein dysgwyr yma yng Ngogledd Cymru, a bod Llywodraeth Cymru yn gwbl hyderus bod gan ein dysgwyr gyfle teg i ddilyn eu dewis nhw o lwybr yn y dyfodol pan fyddant yn cystadlu yn erbyn unrhyw ddysgwr tebyg yn y DU.  

Yn yr un modd, rydym yn bryderus bod y broses safoni, manylion nas rannwyd â'r proffesiwn ymlaen llaw, yn cael effaith andwyol ar ysbryd athrawon ac arweinwyr ysgolion drwy danseilio eu barn broffesiynol yn sylweddol, ac y bydd hyder rhieni hefyd wedi cael ei danseilio oherwydd anghysonderau fel hyn yn y canlyniadau a welwn heddiw.   

Rydym eisiau rhoi ar gofnod ein bod yr un mor bryderus am yr hyn all ddigwydd i'n dysgwyr TGAU wythnos nesaf gan nad yw'r broses hon wedi rhoi hyder i ni, ac nad oes unrhyw broses apelio ystyrlon i ddysgwyr apelio yn erbyn y graddau a gânt. 

I gloi, hoffem ddymuno'r gorau i'n holl bobl ifanc yn y dyfodol a chydnabod y cymorth a gawsant gan eu hysgolion, eu teuluoedd a'r awdurdodau lleol drwy holl heriau y misoedd diwethaf, nas gwelwyd mo'u tebyg o'r blaen.

Nodyn i Olygyddion 

Dyma rai o'r materion a godwyd gan ysgolion:  

• Nifer o ysgolion yn dweud bod anghyfartaledd sylweddol rhwng graddau wedi'u hasesu gan ganolfan a graddau wedi'u dyfarnu gan CBAC yn Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol. 

• Amryw o enghreifftiau o ddysgwyr o'r un gallu mewn pwnc yn cael yr un radd gan y ganolfan yn gweld o leiaf 2 radd o wahaniaeth rhyngddynt ar ôl safoni gan CBAC.

• Ni all Arweinwyr Ysgolion ddeall y rhesymeg tu cefn i'r anghysondeb yn y dyfarniadau ar gyfer rhai dysgwyr unigol. Mae rhai dysgwyr unigol wedi cael cam ac wedi'u trin yn annheg. 

• Ysgolion yn bryderus y bydd dysgwyr yng Nghymru yn colli allan mewn cymhariaeth â chyfoedion mewn rhannau eraill o'r DU, yr Alban yn enwedig.  

• Mae angen gwneud penderfyniadau cynnar oherwydd bydd y drefn glirio yn cychwyn yn fuan. 

• Pryderon am les emosiynol ar ôl i ddysgwyr unigol beidio â chael y graddau maent yn deilwng ohonynt, neu wedi'u disgwyl, a hynny ar ben misoedd o straeon oherwydd sefyllfa COVID-19.

• Mae Penaethiaid mewn sefyllfa anodd iawn o ran rhannu rhai graddau â dysgwyr a hwythau efo fawr ddim, neu ddim hyder o gwbl yn y dyfarniadau maent yn eu rhannu.  

• Dyma rai enghreifftiau: 

 

o Gradd A Canolfan Asesu wedi'i hisraddio i D.

 

o Gradd B Canolfan Asesu wedi'i hisraddio i U.