Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop – codi’r faner

Published: 12/08/2020

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn codi baner Cymru a baner Jac yr Undeb y tu allan i Neuadd Y Sir, Yr Wyddgrug ddydd Sadwrn 15 Awst er mwyn nodi 75 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Japan, a arweiniodd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

 

 Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog:

 

 “Mae Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn gyfle i gofio a rhoi teyrnged i’r rhai a wasanaethodd a chenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd – yn filwyr ac yn ddinasyddion preifat, o Brydain, y Gymanwlad ac yn rhyngwladol – a aberthodd cymaint i sicrhau buddugoliaeth yn y Dwyrain Pell ym mis Awst 1945.

 

“Er na allwn ni nodi’r achlysur fel yr oeddem yn bwriadu ei wneud eleni, rydym ni dal eisiau coffáu Diwrnod Buddugoliaeth yn Japan yn ddiogel tra’n dilyn y canllawiau diweddaraf o ran y Coronafeirws. Mae codi’r baneri yn un o’r ffyrdd y gallwn ni anrhydeddu atgofion y rhai a aberthodd cymaint, a dweud diolch yn fawr.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://ve-vjday75.gov.uk/vjday/