Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


SIR Y FFLINT FEL UN 

Published: 10/08/2020

Safety box 2.jpgMae Cyngor Sir y Fflint a Well Fed – y bartneriaeth rhwng y Cyngor, Clwyd Alyn a Can Cook – wedi bod yn gwneud gwaith gwych ers dechrau’r cyfnod anodd hwn – nid yn unig wrth gefnogi pobl sy’n gwarchod eu hunain ond hefyd wrth gefnogi teuluoedd diamddiffyn nad ydynt wedi’u cynnwys yng Nghynllun Llywodraeth Cymru. 

Erbyn i’r cynllun gwarchod ddod i ben ar 16 Awst, bydd Sir y Fflint a Well-Fed wedi darparu dros 45,000 o brydau ffres a phrif nwyddau i’n preswylwyr a oedd angen cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn. 

Mae’r preswylwyr sydd wedi derbyn y gefnogaeth hon yn cynnwys y rhai a oedd yn gorfod gwarchod eu hunain oherwydd rhesymau meddygol. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu parseli bwyd sylfaenol ar gyfer y preswylwyr hynny a oedd yn gwarchod eu hunain, a oedd yn cynnwys prydau Well-Fed a phrif nwyddau ffres, megis llaeth, bara, wyau, caws a ham. Rydym wedi bod yn danfon dros 500 o barseli yr wythnos i gartrefi yn Sir y Fflint, sydd wedi bod yn ymdrech ar y cyd ar draws y cyngor, sefydliadau partner a’r sector gwirfoddol, yn ogystal â phobl sydd wedi camu ymlaen i wirfoddoli – mae eu cefnogaeth wedi bod yn hynod werthfawr.   

Yn dilyn y danfoniadau olaf o barseli bwyd Llywodraeth Cymru, ar 11 Awst yn Sir y Fflint, bydd y Cyngor a Well-Fed, gyda chymorth gan gyllid y Loteri Genedlaethol a grantiau eraill, yn parhau i gefnogi’r unigolion hynny sydd wedi nodi y bydd eu hangen am barseli bwyd yn parhau – fe allai hyn fod am amrywiaeth o resymau: 

  • pryderon oherwydd rhesymau meddygol a mynd allan wedi i’r rhaglen warchod ddod i ben; 
  • diffyg rhwydwaith cefnogaeth i alluogi iddynt gael mynediad at fwyd;  
  • problemau o ran arwahanrwydd sy’n golygu bod anhawster o ran cael mynediad at fwyd
  • sefyllfaoedd bregus o ran digartrefedd / llety dros dro.

Meddai Jen Griffiths, Rheolwr Budd-Daliadau Cyngor Sir y Fflint:

“Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, a bydd ein timau o unigolion medrus ac ymroddgar, sydd wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â phreswylwyr diamddiffyn drwy gydol y cyfnod hwn, yn cysylltu â phreswylwyr i nodi eu hanghenion cymorth parhaus er mwyn i ni allu sicrhau nad yw dod â’r cynllun gwarchod a pharseli bwyd Llywodraeth Cymru i ben am greu “dibyn” i’n preswylwyr sydd ag anghenion cymorth neu ofynion parhaus. 

“I ddechrau, bydd cyfnod pontio o 6 wythnos yn cael ei gynnal yn olynol ac yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein timau a’n partner, Well-Fed, yn parhau i weithio â phreswylwyr i ddatblygu datrysiad bwyd fforddiadwy a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.” 

Sir y Fflint Fel UnYn ogystal â’r danfoniadau bwyd, mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth â’r sector gwirfoddol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i ddarparu cefnogaeth, yn cynnwys: 

  • Cyflwyno gwybodaeth gyfredol yn rheolaidd drwy ddatganiadau i’r wasg, hysbysebion ar gyfryngau lleol, taflenni’n cael eu dosbarthu â chyflenwadau bwyd a llythyrau’n targedu preswylwyr diamddiffyn yn uniongyrchol; 
  • Fe anfonwyd llyfryn gwybodaeth gyda danfoniadau bwyd ym mis Mai a oedd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol – gellir gweld y wybodaeth hon yma.

 

 

 

 

  •  Bydd llythyr pellach a llyfryn gwybodaeth yn cael eu hanfon at bawb sydd yn gorfod gwarchod eu hunain pan fo’r cyfnod gwarchod yn dod i ben yn ddiweddarach y mis hwn – unwaith eto’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ac yn atgoffa preswylwyr nad ydynt ar eu pen eu hunain a bod cymorth a chefnogaeth ar gael. 

Parhaodd Jen: 

“Yn ystod y cyfnod hwn, mae ein timau ar draws yr holl wasanaethau wedi dod ynghyd i ddarparu ffordd gadarn ac ymarferol o gefnogi ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn. Mae gwersi wedi’u dysgu a chysylltiadau a pherthnasau wedi’u sefydlu a fydd nawr yn cael eu datblygu i gynnal y gefnogaeth ar gyfer preswylwyr sy’n gorfod gwarchod eu hunain yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.  Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o sut mae ein timau wedi ymateb i’r sefyllfa hon a byddwn yn parhau i fynd i’r afael â phryderon preswylwyr fel nad oes unrhyw un yn Sir y Fflint yn teimlo’n unig.”