Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau Chwarae Haf Sir y Fflint 2020

Published: 27/07/2020

AdobeStock_children runningsmall.jpgMae cynlluniau chwarae haf Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer haf arall llawn hwyl – er iddo fod ychydig yn wahanol eleni.

Bydd y cynlluniau’n cael eu rhedeg gan Dîm Datblygu Chwarae’r Cyngor mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned lleol, Urdd Gobaith Cymru, Gwasanaethau Anableddau Teuluoedd Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru.

Oherwydd y sefyllfa gyfredol, bydd y cynlluniau chwarae yn rhedeg o ddydd Llun 17 i ddydd Gwener 28 Awst (dydd Llun i ddydd Gwener).  Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer bob safle a bydd uchafswm o 28 plentyn yn cael eu caniatáu bob sesiwn.

Mae pob sesiwn am ddim i blant rhwng 5 a 12 oed a bydd pob rheolaeth Covid-19 yn eu lle ar y safle, yn cynnwys gorsafoedd gel yn y fynedfa a mannau gadael.

Bydd pob gêm a gweithgaredd wedi’u trefnu gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle.

Mae gwybodaeth lawn a ffurflenni caniatâd rhiant/gofalwyr ar gael nawr ar-lein ar wefan Cyngor Sir y Fflint: Cynlliau Chwarae Haf Sir y Flint.

 

Oherwydd y sefyllfa gyfredol, yn anffodus ni fyddwn yn gallu cynnig y cynllun “Rhannu eich Cinio” eleni.

Fel y blynyddoedd blaenorol, bydd cynllun Cyfeillio Sir y Fflint yn rhan annatod o’r ddarpariaeth, yn rhoi cefnogaeth 1 – 1 i blant ag anableddau.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:-

Janet Roberts, Swyddog Datblygu Chwarae Sir y Fflint

Sym. 07518602614    e:bost: Janet.Roberts2@flintshire.gov.uk

 

Cynllun Chwarae Gwyliau’r Haf Sir y Fflint, 2020

Dydd Llun, 17 Awst – dydd Gwener, 28 Awst (o ddydd Llun i ddydd Gwener) 

 

Safleoedd Sesiynau Bore’r Cynllun Chwarae - 10:30 am -12:30 pm

Northop Hall, Cae Chwarae 

Coed-llai, Parc Phoenix

Brychdyn, Cae Chwarae Brookes Avenue 

Llaneurgain, Ysgol Owen Jones

Yr Wyddgrug, Maes Chwarae Parkfields

Y Fflint, Cae Chwarae Albert Avenue. 

Brynffordd, Cae Chwarae. 

Maes Glas, Canolfan Gymunedol (Cae) 

Caerwys, Meysydd Chwarae’r Sefydliad Coffa

Bagillt, Cae Chwarae Ffordd Fictoria

Carmel, Ysgol Bro Carmel

Treffynnon, Cae Chwarae Pen y Maes 

Pentre Helygain, Maes Chwarae

Penarlâg, Level Road 

Mancot, Meysydd Chwarae

Bwcle, Ysgol Gynradd Gymunedol Westwood 

Bwcle, Cae Elfed

Sealand Manor, Cae Chwarae

Mynydd y Fflint, Maes Chwarae 

Cei Connah, Parc Canolog 

Cei Connah, Cae Chwarae, Hillside Avenue

Trelogan, Canolfan Gymunedol 

Pontybodkin, Maes Chwarae (Llun/Mer/Gwe)

Cymau, Maes Chwarae (Mawrth/Iau)

Mynydd Isa, Maes Chawarae, Wat's Dyke

Yr Wyddgrug, Ysgol Maes Garmon (Cyfrwng Cymraeg) 

Gwernaffield, Ysgol y Waun 

 

Safleoedd Sesiynau Prynhawn y Cynllun Chwarae - 2:00 pm -4:00 pm

Gwernymynydd, Maes Chwarae 

Penyffordd (Caer), Maes Chwarae 

Sychdyn, Maes Chwarae

Yr Wyddgrug, Maes Chwarae Gas Lane

Y Fflint, Dee Cottages

Licswm, Maes Chwarae 

Holway, Maes Chwarae Meadowbank 

Penyffordd (Treffynnon), Maes Chwarae

Bagillt, Ysgol Merllyn

Chwitffordd, Caeau Glebe. 

Treffynnon, Maes Chwarae Penrhyn

Rhosesmor, Maes Chwarae 

Penarlâg, Caeau Chwarae Gladstone 

Sandycroft, Caeau Chwarae

Bwcle,  Parc Drury

Bwcle, Tir Comin 

Garden City,  Welsh Road

Y Fflint, Parc Cornist 

Aston, Caeau Chwarae Gary Speed

Shotton, Cae 33

Y Fflint, Coed Onn

Gronant, Maes Chwarae Antur

Abermorddu, Ysgol Gynradd Gymunedol Llun/Mercher/Gwener

Ffrith, Maes Chwarae Mawrth/Iau

Pentre Cythraul, Cae Pel-droed

Mostyn, Cae Chwarae Maes Pennant

Saltney, Cae Chwarae Park Avenue

Y Fflint, Ysgol Gwynedd, (Cyfrwng Cymraeg) mynediad o Ffordd Coed Onn