Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio gwasanaeth archif ar y cyd

Published: 15/07/2020

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint wedi cyfuno eu gwasanaethau archif, gan greu gwasanaeth archif sy’n gryfach, yn fwy cadarn a chynaliadwy ar gyfer y rhanbarth.

Daeth y gwasanaeth cyfunol, a elwir yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, yn weithredol o 1 Ebrill 2020, i ddechrau ar draws y ddwy swyddfa oedd yn bodoli – Rhuthun a Phenarlâg. Y cynllun hirdymor ar gyfer y gwasanaeth ar y cyd yw symud i adeilad pwrpasol, ecogyfeillgar yn yr Wyddgrug, ger Clwyd Theatr Cymru.

Dywed y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

"Mae uno’r ddau wasanaeth archif ynghyd â chynlluniau ar gyfer adeilad pwrpasol ecogyfeillgar yn golygu ein bod bellach ar fin cychwyn cyfnod cyffrous ar gyfer ein gwasanaeth archif a gellir sicrhau ein cymunedau bod ein casgliadau dogfennau hanesyddol cyfoethog ac amrywiol mewn dwylo diogel ac yn cael eu defnyddio i’w llwyr botensial."

Dywed y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Cabinet Arweiniol Sir Ddinbych ar gyfer Tai a Chymunedau, fod:

"Creu Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn darparu cyfleoedd i’r gwasanaeth ar y cyd i ehangu ei ganolfan ymwelwyr, gan gynyddu nifer y gwirfoddolwyr, cynyddu’r gwaith digideiddio ac allgymorth ac wrth wneud hynny yn sicrhau dyfodol i'r gwasanaeth; gan sicrhau ei fod yn parhau yn berthnasol yn awr ac yn y dyfodol."

Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth ar y cyd ar gau i’r cyhoedd ac ond yn ymdrin ag ymholiadau. Gwneir paratoadau i’r gwasanaeth ailagor yn ddiweddarach eleni a fydd yn sicrhau diogelwch ein staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr.

Dilynwch Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer yr holl sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Facebook https://www.facebook.com/archifaugogleddddwyraincymru/

Twitter https://twitter.com/ArchifauGDCymru

Instagram https://www.instagram.com/archifaugogleddddwyraincymru/