Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfannau Cysylltu’n ail-agor

Published: 09/07/2020

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn ail-agor yn raddol o 13 Gorffennaf: 

13 Gorffennaf – Cei Connah a’r Wyddgrug

20 Gorffennaf – Y Fflint

27 Gorffennaf – Bwcle a Threffynnon

Bydd pethau’n edrych yn wahanol pan fydd pobl yn dod draw i’n gweld ni yn y dyfodol ac efallai y bydd yna rywfaint o amhariad i’r gwasanaeth, gan ein bod wedi cyflwyno mesurau i sicrhau bod ein hymwelwyr a’n gweithwyr yn cadw’n ddiogel bob amser. Bydd system giwio yn ei lle i reoli nifer y bobl a ganiateir i bob Canolfan ar unrhyw un adeg, bydd system unffordd mewn rhai Canolfannau, a bydd yn rhaid defnyddio glanweithydd dwylo wrth gyrraedd pob Canolfan.  

Ni fydd modd defnyddio’r cyfrifiaduron cyhoeddus yn ystod ein cyfnod cychwynnol o ail-agor, oherwydd yn ogystal â chadw pellter cymdeithasol, mae angen i ni gyfyngu ar y mannau y mae pobl yn eu cyffwrdd ym mhob Canolfan.   Mae hefyd yn bwysig nad yw pobl yn ymgasglu mewn Canolfannau’n ddiangen ac am gyfnodau hir o amser.  

Rydym yn rhagweld y bydd Canolfannau’n brysur ac rydym yn annog pobl i barhau i gael gafael ar wasanaethau ar-lein (www.siryfflint.gov.uk) a thros y ffôn (01352 752121) lle bo’n bosibl, gan adael Canolfannau i roi blaenoriaeth i’n cwsmeriaid mwyaf diamddiffyn.   

Mae’r camau hyn wedi’u cyflwyno i gadw pawb yn ddiogel a gofynnwn i’n cymunedau helpu drwy ddilyn y cyngor a’r canllawiau mewn Canolfannau.