Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad o Orchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus

Published: 08/07/2020

Ymgynghorodd Cyngor Sir y Fflint â thrigolion ym mis Mehefin 2017 cyn cyflwyno dau Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC) i fod ar waith dros y sir gyfan.

Ar 14 Gorffennaf, bydd gofyn i’r Cabinet gefnogi ymgynghoriad ar y ddau Orchymyn i gasglu barn ar eu hymestyn am dair blynedd arall.

Bwriad Gorchmynion fel hyn yw atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus. Ni allant fod ar waith am gyfnod o fwy na thair blynedd, ond mae posib’ eu hymestyn neu eu hamrywio os yw gofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni.

Mae swyddogion gorfodi wedi mynd at 1,100 o bobl a rhoi cyngor iddynt ar reoli eu ci dan y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar Reoli Cwn. Mae cyfanswm o 3 rhybudd cosb benodedig wedi’u rhoi am faw cwn a 45 am i gwn fynd ar gaeau chwaraeon wedi’u marcio.

Trosglwyddwyd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus arall o Orchymyn Lle Cyhoeddus Dynodedig Sir y Fflint ym mis Hydref 2017. Mae’r Gorchymyn yn caniatáu pwer i swyddogion dynodedig, sef yr heddlu yn yr achos hwn, i ofyn i aelodau’r cyhoedd ildio unrhyw alcohol sydd ganddynt os ydynt yn cael eu cyfrif yn niwsans mewn lle cyhoeddus. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Rydyn ni’n cynnig bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal trwy ddau arolwg ar-lein – un ar gyfer pob Gorchymyn. Byddent ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint ac yn cael eu rhannu’n helaeth am gyfnod o 5 wythnos trwy gydol mis Awst 2020 ac wythnos gyntaf Medi 2020.”

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Ar ôl y cyfnod ymgynghori, bydd canlyniadau’r arolygon yn cael eu hystyried a’u dadansoddi a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd i drafod a gwneud argymhellion ar y Gorchmynion terfynol cyn i argymhelliad ddod yn ôl ger bron y Cabinet.”