Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffioedd cynlluniau gwresogi ar y cyd 2020

Published: 08/07/2020

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod ar 14 Gorffennaf lle bydd gofyn i’r Aelodau gymeradwyo newidiadau i’r ffioedd gwresogi ar hyn o bryd ar gyfer tai cyngor sydd â chynlluniau gwresogi ar y cyd.

Ar draws Sir y Fflint, mae wyth o gynlluniau gwresogi ar y cyd. Roedd naw, ond mae’r systemau gwresogi yn Panton Place, Treffynnon, wedi cael eu huwchraddio, felly mae’r tenantiaid hynny’n cael eu bilio’n uniongyrchol gan y darparwr cyfleustodau maent wedi’i ddewis ar sail eu darlleniadau eu hunain o’u mesurydd.

Mae’r Cyngor yn trafod i gytuno ar brisiau tanwydd ymlaen llaw ac mae’r tenantiaid yn elwa o gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor. Y Cyngor sy’n talu am y tanwydd yn y lle cyntaf cyn casglu tâl amdano gan denantiaid, gyda'r nod o adennill y costau a dim mwy ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Mae ffioedd gwresogi ar gyfer defnyddio tanwydd yn seiliedig ar ddefnydd y llynedd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r pris i denantiaid wedi gostwng ar gyfer 2020/21 sydd, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniatáu i Sir y Fflint adennill y costau disgwyliedig o ffioedd gwresogi gan drosglwyddo’r manteision o gostau ynni is i denantiaid.  Yr eithriad yw Acacia Close, yr Wyddgrug, sy’n gweld cynnydd o 7% i gostau gwresogi (cyfartaledd ar draws y tri math o eiddo o £0.59c yr wythnos). Mae hyn o gymharu â gostyngiad i gostau gwresogi’r safle hwn o 18% y llynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae ein gwaith arbed ynni’n helpu i gadw unrhyw gynnydd angenrheidiol mor isel â phosib'.  Rydw i’n falch ein bod yn gallu cynnig gostyngiad i’n costau gwresogi i’r rhan fwyaf o’n tenantiaid.  Fe fydd ein tîm ynni’n gweithio gyda darparwr ynni Acacia Close er mwyn gosod darllenwyr awtomatig i ddarparu biliau mwy cywir ac amserol.”

Bydd yr holl newidiadau yn dod i rym ar 31 Awst 2020.