Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cabinet yn ystyried cynnydd blynyddol cadarnhaol y Cyngor - 2019/2020

Published: 08/07/2020

Ddydd Mawrth 14 Gorffennaf bydd gofyn i Aelodau’r Cabinet nodi’r cynnydd, y perfformiad a’r risgiau sydd wedi’u cynnwys yn adroddiad diwedd blwyddyn 2019/20 y Cyngor.

Mabwysiadwyd Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/23 ym mis Medi 2017. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi perfformio'n dda dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf gan brofi unwaith eto ei fod yn Gyngor uchel ei berfformiad. Mae hwn yn adroddiad cadarnhaol arall gydag 88% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a 91% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Mae’r dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gyda 92% wedi neu bron â chyrraedd y targed. Mae'r risgiau yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif wedi'u hasesu fel cymedrol (67%) a chanrannau isel wedi’u nodi yn risgiau bach (12%) neu ansylweddol (6%), gyda 15% yn peri pryder. 

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Drwy Gynllun y Cyngor, rydym ni’n blaenoriaethu meysydd a gwasanaethau sy’n bwysig i’n cymuned. Caiff ei fonitro drwy gydol y flwyddyn i asesu a ydym ar y trywydd cywir i gyrraedd ein targedau. Er gwaethaf nifer o flynyddoedd o heriau ariannol, mae Sir y Fflint yn Gyngor sy'n parhau i berfformio'n uchel." 

Cafwyd nifer o lwyddiannau yn ystod y flwyddyn, dyma rai ohonynt: 

  • Sir y Fflint yn cael ei henwi’n Gyngor Cyfeillgar i Ddementia - y cyngor cyntaf yng ngogledd Cymru.
  • Cyflwyno dull newydd ac arloesol o gynyddu nifer y gofalwyr sy’n gallu darparu gofal i’n preswylwyr (Meicro-ofal).  
  • Gweithredu’r rhaglen Mockingbird ar draws y sir - y rhaglen gyntaf o’i math yng Nghymru - sy’n creu ‘teuluoedd estynedig’ o’r enw cysodau o 6 i 10 teulu maeth sy’n cael eu cefnogi gan ofalwr maeth profiadol.  
  • Ar 31 Mawrth 2020 roedd 115 o gartrefi fforddiadwy wedi’u darparu neu’n cael eu hadeiladu. 
  • Cwblhau ail ran o waith datblygu mawr Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Ysgol Uwchradd Cei Connah ac ysgol gynradd newydd sbon yn u ym Mhenyffordd   Mae prosiectau ar waith yn Ysgol Glan Aber, Ysgol Castell Alun, Campws Queensferry ac Ysgol Glanrafon yn yr Wyddgrug. 
  • Roedd contract i estyn Cartref Gofal March 2020 a chreu lle i 32 o welyau ychwanegol wedi’i lofnodi erbyn mis Mawrth 2020. 
  • Agor Hwb Cyfle, a ddaeth yn lle Canolfan Ddydd Glanrafon ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu, yn swyddogol. 
  • Cyflogi Gweithiwr Estyn Allan i gefnogi pobl sy’n cysgu allan. 
  • Gorffen moderneiddio ac ailwampio ein stoc dai a derbyn lefel boddhad tenantiaid o 95.8%.
  • Ffurfio menter gymdeithasol newydd o’r enw Well-Fed gyda Can Cook a Chlwyd Alyn.
  • Mynediad i gynnyrch misglwyf mewn ysgolion, clybiau ieuenctid a banciau bwyd i gefnogi lles a phresenoldeb yn yr ysgol. 
  • Dylunio cyfleuster parcio a theithio newydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. 
  • Agor Parc Adfer.
  • Creu Gwasanaethau Archifau ar y cyd â Sir Ddinbych - Archif Gogledd Ddwyrain Cymru.
  • Cynorthwyo 94 o breswylwyr i gael gwaith a chynnal sesiynau hyfforddiant amrywiol i 195 o unigolion drwy gynllun Cymunedau am Waith a Mwy.

Mae’r sefyllfa o ran adnoddau yn parhau i fod yn heriol ond, er gwaethaf hyn, mae'r Cyngor wedi llwyddo i bennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2020/21.

Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: 

“Mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol ac yn llwyddiannus wrth gyrraedd ei nodau am flwyddyn arall.  Mae rhai prosiectau wedi’u cwblhau, eraill yn dal ar y gweill ac yn symud i’r flwyddyn nesaf wrth i Sir y Fflint barhau i gyrraedd a rhagori ar ei thargedau er gwaethaf yr heriau economaidd parhaus a’r argyfwng iechyd presennol.”