Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn cefnogi busnesau

Published: 03/07/2020

Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda busnesau lleol i sicrhau eu bod yn derbyn y grantiau a’r cymorth y mae ganddynt hawl i’w derbyn.  Yr wythnos hon fe gwblhawyd y dyfarniadau canlynol: 

Grantiau: 

Cyfanswm y grantiau a ddyfarnwyd yr wythnos hon:              38 – 470k

Cyfanswm y Grantiau a ddyfarnwyd:                                2,557 - £31.12M

Cymorth manwerthu:

Cyfanswm y cymorth a ddyfarnwyd yr wythnos hon:               24 - £324k

Cyfanswm y cymorth a ddyfarnwyd:                                 1,185 - £15.82M

Mae’r cynllun grantiau Cefnogi Busnes wedi cau bellach ac nid ydynt yn derbyn rhagor o geisiadau. Mae rhagor o wybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gael yn https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/cymorth/cymorth-ariannol-grantiau.