Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ail agor eich busnes yn ddiogel

Published: 01/07/2020

Wrth i gyf yngiadau ar fasnachu gael eu llacio, rhaid i weithredwyr busnes asesu a rheoli’r risg o COVID-19 er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau i’w cadw eu hunain, eu staff, a’u cwsmeriaid yn ddiogel. 

Mae hyn yn golygu gwneud popeth sy’n rhesymol ymarferol er mwyn nodi a lleihau unrhyw risgiau posib i staff a chwsmeriaid yn eich eiddo. 

Byddem yn annog pob busnes i arddangos i’w staff a’u cwsmeriaid eu bod wedi asesu eu risgiau yn gywir a chymryd y mesurau priodol i’w lleihau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i fanwerthwyr sydd ar gael yma: https://llyw.cymru/manwerthwyr-canllawiau-coronafeirws?_ga=2.265317702.850007506.1593589188-752598120.1570094616 

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r gwaith i sicrhau bod eich eiddo yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru gallwch roi gwybod i bobl, drwy arddangos hysbysiad – gellir lawrlwytho’r hysbysiad o’n gwefan: https://www.flintshire.gov.uk/stay-covid-19-secure.

 

Mae’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf i fusnesau hefyd ar gael ar wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: https://www.hse.gov.uk.  Os oes angen mwy o gymorth arnoch, rhif Llinell Gyswllt yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yw 0300 790 6787

Mae mwy o wybodaeth a dolenni defnyddiol ar ein gwefan ar gyfer busnesau lleol sy’n cynllunio ar gyfer ailagor.  https://www.siryfflint.go.uk/agorynddiogel