Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dychwelyd i’r Ysgol

Published: 30/06/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi nodi dechrau esmwyth i’r diwrnod cyntaf o ysgol er mwyn i ddisgyblion ‘ailgydio, dal ati i ddysgu a pharatoi’, gyda’i holl ysgolion wedi ailagor yn ddiogel yn barod ar gyfer derbyn eu grwpiau cyntaf o ddisgyblion. Mae’r trefniadau ar gyfer cludiant i’r ysgol wedi rhedeg yn effeithiol gydag ond nifer cyfyngedig o ddisgyblion yn defnyddio’r rhwydwaith gan fod rhieni wedi dilyn cyngor i wneud eu trefniadau eu hunain lle bynnag bosibl.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Mae heddiw’n nodi diwrnod pwysig iawn ar gyfer dysgwyr Sir y Fflint ac rwy’n falch o weld bod ein holl ysgolion wedi gallu ailagor a chroesawu mwy o’u disgyblion yn ôl. Mae hyn yn cynrychioli ymdrech tîm ar draws ystod eang o wasanaethau’r cyngor, gan gynnwys y Portffolio Addysg, yr Uned Trafnidiaeth Integredig, Glanhau ac Arlwyo NEWydd a’r tîm Iechyd a Diogelwch.  Mae ein hysgolion wedi gweithio’n ddiflino yn ystod y cyfnod cau ysgolion i ddarparu gofal plant brys ar gyfer gweithwyr allweddol a dysgwyr diamddiffyn ac wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn cwblhau asesiadau risg manwl a rhoi mesurau rheoli yn eu lle er mwyn sicrhau bod disgyblion, rhieni a staff yn teimlo sicrwydd am ddychwelyd i’r ysgol. Edrychwn ymlaen at weld sut mae dysgwyr yn mwynhau eu hwythnosau olaf yn yr ysgol cyn ddiwedd y tymor.”

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

“Hoffwn fynegi fy niolch i holl Benaethiaid a staff ar draws ysgolion Sir y Fflint sydd wedi gweithio mor galed dros y misoedd diwethaf ac am yr ymdrech ychwanegol i wneud ein hysgolion yn llefydd diogel i’n dysgwyr ddychwelyd. Mae cymaint o ddyfeisgarwch a chreadigrwydd wedi digwydd er mwyn gwneud eu hadeiladau mor lliwgar a chroesawgar â phosibl, er gwaethaf y mesurau cadw pellter cymdeithasol, fel bod plant a phobl ifanc yn teimlo’n gyfforddus a hyderus pan maent yn cyrraedd yr ysgol am y tro cyntaf. Gwyddwn fod ein holl ysgolion yn edrych ymlaen at weld eu disgyblion unwaith eto. Hoffwn gymryd y cyfle hefyd i ddiolch i rieni a gofalwyr disgyblion Sir y Fflint sydd wedi gweithio’n galed i gefnogi dysgu eu plant yn ystod y cyfnod cau ysgolion ac ymgysylltu mewn amryw o weithgareddau dysgu mae eu hysgolion wedi eu darparu. Edrychwn ymlaen at yr wythnosau nesaf a gweld ein holl ddysgwyr unwaith eto.”