Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gohirio Ffioedd Maes Parcio

Published: 29/06/2020

Penderfynodd y Cyngor Sir atal bob taliad mewn meysydd parcio Talu ac Arddangos dros dro ledled y Sir o 25 Mawrth 2020 ymlaen.  Gwnaethpwyd y penderfyniad hwn i ostwng cyswllt personol a’r risg o drosglwyddo COVID-19/coronafeirws drwy’r peiriannau talu ac i gynorthwyo gweithwyr allweddol a siopa hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

 

Yn dilyn datganiad Llywodraeth Cymru i ganiatáu siopau anhanfodol i agor o 22 Mehefin 2020 ymlaen, gallwn gadarnhau y bydd gohirio ffioedd meysydd parcio yn parhau yn y dyfodol agos. Fodd bynnag, er mwyn gwneud yn siwr bod llefydd ar gael i barcio yn agos at ganol y dref, bydd gofyn i unrhyw un sy’n parcio mewn meysydd parcio arhosiad byr gael tocyn o’r peiriant a’i arddangos ar eu cerbyd. Bydd hyn yn sicrhau nad yw mannau parcio gwerthfawr yn cael eu defnyddio gan bobl sy’n dod i ganol y dref ac yn parcio yno drwy’r dydd.

 

Mae marciau wedi cael eu gwneud ar y llawr wrth bob peiriant lle bydd angen tocyn i barcio yno, er mwyn cynorthwyo gyda chadw pellter cymdeithasol. Mae mannau diheintio wrth bob peiriant, ac rydym yn eich annog i ddiheintio eich dwylo cyn ac ar ôl ei ddefnyddio. Os nad ydych chi’n teimlo’n gyffyrddus i gyffwrdd y peiriant, yna gallwch ddefnyddio gwrthrych fel goriad eich car i bwyso’r botwm.

 

Wrth barcio yn y meysydd parcio, mae bob rheol arall yn berthnasol fel parcio mewn bae ac arddangos bathodyn glas dilys wrth barcio mewn bae penodol ar gyfer pobl anabl. Hefyd, hoffem eich atgoffa i sicrhau eich bod yn cadw pellter cymdeithasol bob amser, a lle bo modd yn gadael lle gwag rhwng eich cerbyd chi a’r cerbyd nesaf.

 

Mae swyddogion gorfodi’r Cyngor bellach yn gweithredu yng nghanol trefi i gynnig cyngor ac i sicrhau nad oes unrhyw un yn parcio mewn man peryglus neu sy’n rhwystro mynediad.