Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llacio’r cyfyngiadau ar symud

Published: 19/06/2020

Mae’r Cyngor yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw gan Brif Weinidog Cymru i lacio’r cyfyngiadau ar symud ac y bydd busnesau nad ydynt yn hanfodol yn cael ailagor o ddydd Llun, 22 Mehefin.

Rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer llacio’r cyfyngiadau ar symud yng nghanol trefi ac ar gyfer mwy o bobl sydd eisiau dod yn ôl i’r trefi i siopa ac i gael mynediad at wasanaethau. Bydd ymwelwyr yn gweld nifer o newidiadau mewn trefi i’w cynorthwyo i gadw’n ddiogel yn ystod eu hymweliad, gan gynnwys arwyddion, ardaloedd ciwio wedi’u marcio, palmentydd lletach ac mewn rhai llefydd, parthau cerdded unffordd. 

Mae’r mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi cael eu dylunio i gynorthwyo busnesau i fasnachu’n effeithiol ac i wneud canol trefi mor groesawgar a chyfforddus â phosibl heb beryglu iechyd a diogelwch y cyhoedd.

Mae’r busnesau canol y dref sydd wedi bod ar agor dros y cyfnod wedi bod yn werthfawr iawn i gefnogi trigolion Sir y Fflint drwy’r cyfnod anodd hwn.  Mae amrywiaeth eang o siopau yng nghanol trefi Sir y Fflint, sy’n gwerthu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau o safon uchel, a gobeithiwn y bydd trigolion yn cymryd y cyfle dros yr wythnosau nesaf i ddangos eu cefnogaeth i’w trefi a chefnogi busnesau lleol.

Wrth weithio gyda’n partneriaid, byddwn yn parhau i ddatblygu mesurau a datrysiadau priodol eraill sydd eu hangen er mwyn sicrhau cadernid a hyfywedd trefi Sir y Fflint.