Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


NEW Homes yn cyhoeddi eiddo newydd

Published: 17/06/2020

Mae’r darparwr tai o Sir y Fflint, North East Wales Homes yn falch o gyhoeddi eu bod wedi prynu naw o dai fforddiadwy newydd gan gwmni 5 seren Gogledd Cymru, Macbryde Homes ar ei ddatblygiad Plas Issa ym Mryn y Baal, Sir y Fflint.

Mae’r tai wedi’u codi ar gyrion pentref poblogaidd Baal, ac mae Plas Issa yn ddatblygiad newydd sbon gyda golygfeydd godidog. Gyda nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd i ddewis ohonyn nhw ym Mryn y Baal a’r ardaloedd cyfagos, ynghyd â chysylltiadau cludiant a chyfleoedd cyflogaeth wych, mae’r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o dai tref a thai sengl.

Am rent fforddiadwy bydd y naw eiddo ar gael ddechrau’r haf ac yn cael eu marchnata  gan Tai Teg, Darparwr Cofrestredig o Dai Fforddiadwy i Sir y Fflint.

Plas Issa fydd y cynllun cyntaf lle bydd North East Wales Homes mewn partneriaeth â Macbryde Homes, ac mae cynlluniau strategol yn cael eu datblygu ar gyfer cynlluniau’r dyfodol ar draws y sir. 

Mae Macbryde Homes o Lanelwy yn gwmni teuluol ag enw da mewn datblygu tai, a thros y 25 mlynedd diwethaf mae’r cwmni wedi gwneud enw da i eiddigeddu wrtho mewn dylunio ac adeiladu cynlluniau tai sy’n fodern ac o safon ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Meddai Paul Humphries, Cadeirydd North East Wales Homes:

“Mae North East Wales Homes yn falch iawn o gael darparu’r cynllun o safon uchel hwn ar gyfer tai fforddiadwy newydd ym Mryn y Baal mewn partneriaeth â Macbryde Homes. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda datblygwyr lleol i ddod â chyfleoedd newydd i bobl leol i gael mynediad i eiddo o safon ac sy’n fodern. O ystyried yr amseroedd ansicr ar hyn o bryd, mae gallu darparu tai fforddiadwy yn bwysicach i ni heddiw nac erioed.”

Dywedodd Gwyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Macbryde Homes:

“Mae Macbryde Homes yn falch o fod yn gweithio gyda North East Wales Homes ar y datblygiad hwn, a’r gobaith mai dyma’r cyntaf o nifer o bartneriaethau gyda Sir y Fflint yn y blynyddoedd nesaf.”

I ddechrau mae’n rhaid i ymgeiswyr â diddordeb gofrestru gyda Tai Teg i gwrdd â’u meini prawf. Am ragor o wybodaeth ac arweiniad ar sut i wneud cais am un o’r cartrefi hyfryd hyn ewch i taiteg.org.uk neu anfonwch e-bost at info@taiteg.org.uk