Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Published: 11/06/2020

Yn nes ymlaen fis yma, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint adolygu a mabwysiadau adroddiad blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Hon yw bedwaredd flwyddyn y fformat newydd ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cael ei baratoi o dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Mae gan y Cyngor lawer i'w ddathlu o ran y gwaith a wnaed i hyrwyddo a gwella lles pobl yn y Sir, gan gynnwys:

  • Agor Hwb Cyfle.
  • Datblygu ein cyfleusterau Gofal Ychwanegol. 
  • Bod yn Gyngor sydd yn ‘Gweithio Tuag at fod yn Gyfeillgar i Ddementia’, y cyntaf yng ngogledd Cymru. 
  • Ein hadborth cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn dilyn eu harchwiliad.
  • Gweithredu Prosiect Mentrau Gofal Bychain. 
  • Llwyddiannau parhaol gyda Progress for Providers.

Heb os nag oni bai, fe fydd y flwyddyn o’n blaenau yn un heriol wrth i ni sylweddoli beth yw effaith Covid-19 ar ein poblogaeth, ein busnesau, gwasanaethau a’n cymunedau. Mae’r mesurau llym newydd ar gyfer teithio hanfodol a chadw pellter cymdeithasol wedi arwain at newidiadau mawr i’r hyn rydym wedi ei ystyried yn normal. Bellach mae yna ddealltwriaeth newydd o’r gwaith rhagorol mae ein cydweithwyr yn y gwasanaethau cymdeithasol yn ei wneud bob dydd. Dylid parhau i ddathlu’r gweithlu yma fel arwyr ynghyd â’r gweithlu iechyd, y rhai sydd yn gweithio yn y gadwyn gyflenwi cynhyrchu bwyd, gweithwyr danfoniadau a phost, gwirfoddolwyr a llawer mwy. 

Dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol: 

“Mae’r adroddiad cynhwysfawr yma’n gosod sefyllfa gadarnhaol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint ac yn dangos er gwaethaf y pwysau digyffelyb presennol ar wasanaethau, mae ein staff yn parhau i ddarparu gwasanaethau ardderchog i gefnogi’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn yn y sir. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi rhaglen lawn o welliannau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant, er mwyn ymateb i anghenion yn y dyfodol ac i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cadw eu henw da cadarnhaol”.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint: 

“Mae hwn yn adroddiad ardderchog ac yn asesiad teg o'n perfformiad fel gwasanaeth y llynedd. Yn benodol, mae wedi bod yn dda gweld sut mae ein swyddogion wedi addasu a pharhau i gefnogi ein preswylwyr yn ystod y cyfnod anodd yma.   Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon, a byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd i wella, yn enwedig yn ystod cyfnod mor heriol sydd hefyd yn arwain at alw cynyddol ar ein gwasanaethau”.

Mae’r adroddiad blynyddol yn amlinellu’r blaenoriaethau gwella a nodwyd ar gyfer 2020/2021. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Gweithredu Cerdyn ID Gofalwyr Ifanc cenedlaethol. 
  • Datblygu opsiynau cefnogaeth i rieni a phobl ifanc sydd ag anghenion iechyd meddwl isel/cymedrol. 
  • Datblygu ein Cynllun Gweithredu nesaf i gefnogi pobl sy’n byw gyda Dementia a’u gofalwyr, a pharhau i gael ein hadnabod fel Cyngor sy’n ‘Gweithio tuag at fod yn Gyfeillgar i Ddementia’. 
  • Sefydlu tîm amlddisgyblaethol i ddarparu asesiad ‘ymateb cyflym’ a chymorth i blant a theuluoedd sydd ar ymylon gofal. 
  • Gweithredu model maethu ‘Mockingbird’.
  • Gweithio gyda phobl ifanc a darparwyr addysg bellach i greu cyfleoedd i bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol i gael mynediad  at addysg 
  • Gweithio i leihau yn ddiogel y nifer o blant sy’n mynd i’r system ofal a gwella canlyniadau y rheiny sydd mewn gofal.
  • Cwblhau Rhaglen Gofal Ychwanegol. 
  • Datblygu cynlluniau ymestyn gofal preswyl mewnol. 
  • Cynyddu ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i atal digartrefedd ymysg pobl ifanc 16