Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Diweddaraf am y Cynllun Datblygu Lleol

Published: 11/06/2020

Gofynnir i Gabinet y Cyngor nodi’r cynnydd cadarnhaol parhaus sy’n digwydd ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a chytuno ar yr amserlen ddiwygiedig yn ei gyfarfod ar 16 Mehefin.

Daeth ymgynghoriad y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd i ben ar 11 Tachwedd 2019, ac ers hynny mae swyddogion wedi bod yn gweithio i brosesu, crynhoi ac ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd.  Maent yn gwneud cynnydd da iawn o ran ymateb i’r sylwadau ac ar y trywydd iawn mewn perthynas ag amserlen Cytundeb Cyflawni’r CDLl presennol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf materion yn codi o’r sefyllfa Covid 19 presennol. 

Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio, cytunwyd dros dro y gall y Cynllun barhau i wneud cynnydd gyda chyn lleied o oedi â phosibl i’r amserlen bresennol, gan arwain at symud cyflwyniad y Cynllun ar gyfer ei Archwilio o fis Mehefin i fis Hydref eleni, ac archwiliad ffurfiol y Cynllun yn symud o fis Medi i fis Ionawr 2021. 

Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn edrych am ffyrdd amgen i gyhoeddi’r rhestr gyflawn o sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r Cynllun i’w Archwilio gan y Cyhoedd, gan nad yw’n ymarferol nac yn bosibl iddynt fod ar gael ar bapur mewn nifer o’r lleoliadau cyhoeddus a ddefnyddir fel arfer. Mae’n debygol y byddent ar gael yn ddigidol ac ar-lein a bydd y Cyngor yn nodi ac yn cyfathrebu’r ffyrdd y gall bobl gael mynediad a gweld y rhain. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd gallu cynnal y cynnydd ar y strategaeth bwysig hon a gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd ar y cynnydd. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddiweddaru’r amserlen a gwneud hon a’r rhestr o sylwadau ar gael i’r cyhoedd. Yn ogystal â hynny, mae dyddiad dros dro o 29 Medi wedi cael ei nodi er mwyn i’r Cyngor ystyried y Cynllun. Bydd cyflwyno’r Cynllun ar gyfer ei Archwilio yn cael ei drefnu a’i amseru i ddilyn hyn yn agos ym mis Hydref 2020. Yna bydd hyn yn ysgogi apwyntiad ffurfiol gan Arolygydd a pharatoadau ar gyfer archwiliad ym mis Ionawr 2021.”