Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllideb 2019/2020

Published: 11/06/2020

Pan fydd Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod ar 16 Mehefin, bydd gofyn iddynt nodi adroddiad ar sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer ei chyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.

Er gwaethaf yr heriau presennol a phwysau economaidd parhaus, rydym wedi llwyddo i gael cyllideb gytbwys ac rydym ar y trywydd i gyflwyno’r Datganiad Cyfrifon ffurfiol a nodiadau ategol i Swyddfa Archwilio Cymru yn unol â’r dyddiad cau statudol, sef 15 Mehefin. 

Bydd y Cyfrifon yn destun archwiliad dros yr haf a bydd y cyfrifon terfynol wedi’u harchwilio’n cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio ym mis Medi i gael cymeradwyaeth ffurfiol. 

Dyma oedd y sefyllfa derfynol ddiwedd y flwyddyn:

Cronfa’r Cyngor

• Arian dros ben gweithredol o £0.439m (diffyg o £1.524m ym mis 11) gan arwain at falans Cronfa Hapddigwyddiad o £2.370m ar 31 Mawrth 2020. 

Cyfrif Refeniw Tai (CRT)

• Roedd gwariant net yn y flwyddyn yn £0.686m yn is na’r gyllideb gan arwain at falans heb ei glustnodi o £2.008m ar 31 Mawrth 2020.

Mae’r sefyllfa derfynol yn symudiad positif sylweddol o £1.963m o fis 11 ac mae hyn yn sgil nifer o ffactorau gwahanol. 

Mae meysydd penodol yn destun adolygiad tactegol er mwyn lleihau’r sefyllfa gorwariant sydd wedi’i ddarogan megis sefyllfa derfynol Cynllun Disgownt Person Sengl ac adolygiad parhaus o Fenthyciadau Canolog a Chyfrif Buddsoddiadau cymhleth. 

Cyflwynwyd mesurau hefyd i adolygu a herio gwariant dianghenraid a recriwtio i swyddi gwag gyda’r nod o leihau gwariant yn y flwyddyn er mwyn lleddfu rhywfaint ar y gorwariant a gafodd ei ddarogan ar y pryd.  Cafodd y gwaith yma effaith cadarnhaol ar y sefyllfa derfynol. 

Yn ychwanegol, fel y blynyddoedd blaenorol, roedd cafwyd grantiau hwyr gan Lywodraeth Cymru, y Bwrdd Iechyd a thrydydd parti, a chafodd y cyfan effaith cadarnhaol ar sefyllfa ariannol y Cyngor ar ddiwedd 2019/20.

Mae’r gwelliant yn y sefyllfa ariannol ar ddiwedd mis Mawrth 2020 yn cael ei groesawu mewn cyfnod pan mae angen i ni newid y ffocws i ddelio â’r flwyddyn ariannol newydd a’r heriau sylweddol rydym ni’n eu hwynebu.