Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflenwadau bwyd Well-Fed – Y stori hyd yn hyn

Published: 10/06/2020

1.jpgBob wythnos, mae Well-Fed, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, wedi bod yn danfon prydau, bagiau i’r popty a bocsys diogelwch i gannoedd o aelwydydd diamddiffyn yn Sir y Fflint am ddim – gan sicrhau bod trigolion sy’n ei chael yn anodd, trigolion sy’n hunan-ynysu a bydd preswylwyr mewn angen yn ein cynlluniau cysgodol a'n tai â chymorth yn derbyn bwyd ffres o ansawdd uchel. 

Rydym bellach dros hanner ffordd i ddarparu cymorth bwyd brys mewn ymateb i’r sefyllfa Covid-19. 

Dros y deg wythnos diwethaf, rydym wedi gallu cefnogi ein tenantiaid mwyaf diamddiffyn sy’n gwarchod eu hunain, gyda phrydau iach llawn maeth er mwyn eu cynorthwyo yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Rydym hefyd yn darparu cyflenwadau ffres drwy focsys gwarchod Well-Fed. Mae’r rhain yn cynnwys prydau wedi’u paratoi yn ffres, yn ogystal â chyflenwadau fel bara, llaeth, wyau a chynnyrch ffres eraill, ac unrhyw roddion yr ydym wedi derbyn i gadw’r trigolion yn iach. Mae ein cyflenwadau yn lleihau ymweliadau â’r archfarchnadoedd ac yn aml, ni yw’r unig gyflenwad bwyd mae rhai o’n trigolion, sy’n gwarchod eu hunain, yn ei dderbyn.  

Mae'r ymdrechion bwyd brys ar gyfer wythnosau 1-6 fel a ganlyn:

2.jpg

 

Wythnos 1

12 Gyrrwr

2000 o brydau 

432 o gyflenwadau 

100 o focsys gwarchod Well-Fed

 

 

Wythnos 2 

12 Gyrrwr 

2400 o brydau a 200 o fagiau popty 

447 o gyflenwadau i bobl sengl, cyplau, teuluoedd a thrigolion sy’n gwarchod eu hunain 

206 o focsys gwarchod Well-Fed 

 

4.jpgWythnos 3 

13 Gyrrwr

2400 o brydau a 200 o fagiau popty

494 o gyflenwadau i bobl sengl, cyplau, teuluoedd a thrigolion sy’n gwarchod eu hunain

210 o focsys gwarchod Well-Fed  

Wythnos 4 

13 Gyrrwr

2400 o brydau a 200 o fagiau popty

451 o gyflenwadau i bobl sengl, cyplau, teuluoedd a thrigolion sy’n gwarchod eu hunain

228 o focsys gwarchod Llywodraeth Cymru - dechrau derbyn a danfon bocsys Llywodraeth Cymru a danfon prydau a chynnyrch ffres Well-Fed, llaeth, bara, menyn, ham, caws, wyau, ffa pob a grawnfwyd. 

 

5.jpg

 

Wythnos 5 

20 Gyrrwr 

2600 o brydau a 100 o fagiau popty 

522 o gyflenwadau i bobl sengl, cyplau, teuluoedd a thrigolion sy’n gwarchod eu hunain

268 o Focsys gwarchod Llywodraeth Cymru 

 

 

Wythnos 6 

25 Gyrrwr 

2500 o brydau a 100 o fagiau popty 

530 o gyflenwadau i bobl sengl, cyplau, teuluoedd a thrigolion sy’n gwarchod eu hunain

179 o Focsys gwarchod Llywodraeth Cymru 

Mae’r cymorth hwn yn cael effaith mawr, yn cynorthwyo trigolion sy’n gwarchod eu hunain a’n pobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Os ydych chi wedi derbyn llythyr i warchod eich hunain ac angen cymorth gyda bwyd, neu yn ei chael yn anodd prynu bwyd ar hyn o bryd, cysylltwch â 01352 752121 am fwy o fanylion.