Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arhoswch adref

Published: 22/05/2020

Dros benwythnos Gwyl y Banc mae’n hanfodol bod pobl yn Sir y Fflint a mannau eraill yn dilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru sydd ddim yn caniatáu i bobl yrru i leoedd er mwyn ymarfer, oni bai bod ganddynt faterion symudedd. 

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ystyried eraill ac yn dilyn y rheolau.   Fodd bynnag, gyda phenwythnos Gwyl y Banc yn nesáu, mae yna risg y bydd rhai pobl yn ceisio ymgynnull mewn grwpiau neu ymweld â mannau cyhoeddus yn erbyn y rheoliadau.  

Mae’r maes parcio ym Mharc Wepre yng Nghei Connah yn parhau dan glo ac mae’r ardal chwarae, canolfan ymwelwyr a’r toiledau yn dal wedi cau.   Gall pobl sy’n byw’n lleol ger y parc ymarfer yno a gall genweirwyr lleol hefyd gael mynediad i bwll pysgod ‘The Rosie’.  Mae’n rhaid dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol yn ofalus bob amser.   

Mae yna le parcio cyfreithiol cyfyngedig mewn cyrchfannau poblogaidd fel Talacre a bydd ein Swyddogion Gorfodi yn patrolio’r ardal hon ac ardaloedd eraill yn rheolaidd yn ystod penwythnos Gwyl y Banc. 

Mae’r meysydd parcio canlynol yn parhau ynghau: 

• Dock Road, Cei Connah 

• Castell y Fflint

• Gorsaf y Bad Achub, y Fflint

• Pont Droed Saltney Ferry

• Dock Road, Maes Glas  

• Golygfan Gwaenysgor 

• Gamfa Wyn, Talacre

• Station Road, Talacre

Mae Maes Parcio’r Goleudy, Talacre hefyd wedi’i gau gan y perchennog. 

Mae ardaloedd ble rydym wedi cael adroddiadau blaenorol bod pobl yn ymgynnull yn parhau i gael eu monitro gan Heddlu Gogledd Cymru. 

Dylech gydweithredu a dilyn y rheolau a’r rheoliadau.