Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailwynebu’r Ffordd yn A541 Signalau Traffig Abermorddu ac A541 Caergwrle

Published: 20/05/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi fod cyllid wedi cael ei sicrhau i gynnal gwaith ail wynebu a gwaith cysylltiedig ar y lôn gerbydau yn A541 Signalau Traffig Abermorddu a A541 Caergwrle rhwng Porch Lane a Castle Street.  

Bydd y gwaith yn dechrau ar ddydd Llun 1 Mehefin yn A541 Signalau Traffig Abermorddu, ac ar ôl iddynt gael eu cwblhau byddant yn dechrau ar A541 Caergwrle.

Mae disgwyl i’r gwaith bara am tua phedair wythnos (yn dibynnu ar y tywydd). 

Mae’r gostyngiad yn lefel y traffig ar hyn o bryd yn golygu y gellir gwneud y gwaith yn ddiogel gyda chyn lleied â phosib o ymyrraeth. Bydd y gwaith yn cael ei fonitro a’i oruchwylio’n agos gan ddilyn gofynion cadw pellter cymdeithasol y Llywodraeth. 

Bydd mesurau rheoli traffig ar waith dros gyfnod y gwaith er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr y briffordd. 

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Hoffai Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr Breedon Southern Limited ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad a allai gael ei achosi yn sgil y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn a byddwn yn cwblhau’r gwaith mor sydyn â phosibl.