Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


COVID-19 Gwybodaeth am Ailagor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Published: 19/05/2020

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Sir y Fflint yn ailagor i’r cyhoedd ddydd Mawrth 26 Mai. Yr oriau agor ar gyfer y bythefnos gyntaf fydd o 9.00 a.m. tan 8.00 pm.

Rydym yn gweithio’n galed i gadw Sir y Fflint mor lân a diogel â phosibl yn ystod cyfnod y cyfyngiadau ar symud. Rydym wedi bod yn casglu deunydd i'w ailgylchu, bwyd a sbwriel ond rydym yn cydnabod y bydd gan nifer o breswylwyr wastraff a deunydd i'w ailgylchu ychwanegol i’w gwaredu. 

Fe fydd y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor i breswylwyr waredu gwastraff a deunyddiau i’w hailgylchu o’r cartref.  

Cyn i chi ymweld â safle gofynnwn i chi feddwl yn ofalus am eich taith os gwelwch yn dda ac a oes angen i chi ymweld â'r safle. 

Fe fydd y galw yn ein canolfannau yn uchel yr wythnos gyntaf y byddant ar agor. I sicrhau diogelwch y cyhoedd a’n gweithwyr mae mesurau arbennig i reoli’r canolfannau wedi eu cyflwyno. Darllenwch ymlaen:- 

Mesurau Diogelwch ar y Safle:

  • Ni ddylech ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y cartref os ydych chi neu unrhyw un yr ydych yn byw gyda nhw yn hunan ynysu neu’n dangos symptomau COVID-19.
  • Dim ond cyfanswm bach o wastraff y byddwn yn ei dderbyn. Ni chaniateir mynediad i faniau gydag ochrau uchel na threlars (bydd faniau llai sy’n deillio o geir/cerbydau gyriant pedair olwyn yn cael mynediad). Gwahanwch eich gwastraff cyn dod i’r safle i sicrhau fod eich ymweliad yn un cyflymach.
  • Dim ond os yw’n hanfodol y dylech ymweld â’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. O dan y canllawiau presennol dim ond os yw eich gwastraff yn achosi perygl i iechyd ac na ellir ei storio’n ddiogel gartref y dylech wneud y daith hon. 
  • Bydd y nifer o gerbydau ar y safle ar unrhyw adeg yn cael ei gyfyngu. Pan fo'n bosibl dim ond y gyrrwr dylai wneud y daith, a hynny ar ei ben ei hun.  
  • Bydd angen i chi aros yn y fynedfa i’r safle hyd nes y bydd y tîm ar y safle yn caniatáu i chi fynd i mewn. Mae’n RHAID i chi aros yn eich car tra’n ciwio. Dim ond nifer gyfyngedig o gerbydau fydd yn cael eu caniatáu i’r safle ar unrhyw adeg ac fe fyddwn yn gweithredu system lle caiff unigolyn ei adael i mewn wedi i un arall ddod allan. Dim ond un unigolyn a ganiateir i fod y tu allan i’w gerbyd.
  • Mae’n rhaid i weithwyr ac ymwelwyr gadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol bob amser. Fe ddylai pawb sy’n defnyddio’r safle gadw pellter o 2 fedr oddi wrth eraill bob amser. 
  • Dim ond gwastraff nad oes modd ei ailgylchu ddylai'r gwastraff bin du ei gynnwys.  Rydym yn casglu bwyd, caniau, deunyddiau plastig, papur, cerdyn a gwydr ar garreg y drws ac felly dylai preswylwyr ddefnyddio'r casgliadau hyn ar gyfer y deunyddiau hynny. Ni fyddwn yn derbyn bagiau du sy'n cynnwys bwyd a/neu ddeunyddiau sy’n ailgylchu.
  • Dim ond pethau y gallwch eu cario/trin eich hun y dylech ddod gyda chi.  Yn sgil y rheoliadau i gadw pellter o ddwy fetr, ni allwn roi cymorth i chi ddadlwytho eich deunyddiau. Os oes gennych eitemau swmpus, dylech naill ai ddal eich gafael arnynt tan y byddwn yn gallu eu derbyn (rhagor o wybodaeth i ddilyn yn fuan) neu tan fydd rheoliadau cadw pellter cymdeithasol y Llywodraeth yn cael eu llacio.
  • Fe fydd y safleoedd yn brysur iawn ac fe ddylech ddisgwyl ciwio i gael mynediad i’r safle. 
  • Fe fydd system draffig newydd mewn grym ac mae’n bosibl y bydd cyfyngiad ar giwio y tu allan i’r safleoedd. Os yw’r ciwiau’n ymestyn i’r briffordd gyhoeddus ac yn achosi risg, fe all yr heddlu symud pobl ymlaen. 
  • Sicrhewch eich bod yn parchu ac yn ystyried ein timau a’ch cyd gwsmeriaid os gwelwch yn dda. Ni fydd unrhyw gamdriniaeth neu fethiant i ddilyn y mesurau diogelwch hyn ar y safle yn cael ei oddef. Os oes angen fe fydd yr heddlu yn ymyrryd.

Rydym yn diolch i chi am eich amynedd a’ch cefnogaeth barhaus.

I gael mwy o wybodaeth a chwestiynau cyffredin ymwelwch www.siryfflint.gov.uk/CAC