Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno 'Model Teulu Mockingbird' i gefnogi teuluoedd maeth

Published: 14/05/2020

  • Dyfarnwyd £1.15miliwn o gyllid arloesi i Gyngor Sir y Fflint i gyflwyno Mockingbird i 50 o deuluoedd yng ngogledd Cymru.
  • Mae potensial gan brosiect Sir y Fflint i arbed £2.4 miliwn dros 6 blynedd drwy osgoi costau i'r Awdurdod Lleol
  • Mae’r cyhoeddiad yn nodi Penwythnos Gofal Maeth 11-24 Mai 2020, ymgyrch blynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi ymwybyddiaeth o bwer maethu a dathlu'r gymuned maethu. 

Caiff dull newydd o gyflwyno gofal maeth ei gyflwyno ar draws Sir y Fflint. Bydd 'rhaglen Mockingbird' Sir y Fflint, yn seiliedig ar y Model Teulu Mockingbird sy'n creu 'teulu estynedig' o gefnogaeth, yn cefnogi 50 o deuluoedd. Sefydlwyd y clwstwr cyntaf ym mis Chwefror 2020 gydag un arall i ddilyn erbyn diwedd y flwyddyn. 

Mae rhaglen Mockingbird yn creu 'teulu estynedig' - a elwir yn glwstwr - o 6-10 o deuluoedd maeth sy'n derbyn cefnogaeth gan ofalwr maeth profiadol. Mae'r rhaglen yn gwella sefydlogrwydd lleoliadau maeth ac yn cryfhau'r berthynas rhwng gofalwyr, plant a phobl ifanc, gwasanaethau maethu a theuluoedd biolegol. Mae model y teulu estynedig yn galluogi cysgu draw a seibiau byr, cefnogaeth cymheiriaid, cydgynllunio a hyfforddi rheolaidd, a gweithgareddau cymdeithasol rhwng y teuluoedd.

Dangosodd prosiect peilot yn y DU fod rhaglen Mockingbird, a sefydlwyd gan The Mockingbird Society yn America ac a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Maethu yn y DU, yn lleihau’r nifer o fethiannau a symud lleoliadau sy'n gostus i'r Awdurdod Lleol ac sy'n cael effaith niweidiol ar y plentyn.

Mae 5 clwstwr ar y gweill yn Sir y Fflint erbyn diwedd 2022, fydd yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol i hyd at 80 o bobl ifanc a 50 o gartrefi maethu. Drwy fuddsoddi i arbed, rhagwelir y bydd y model yn creu arbedion drwy osgoi costau rheoli uchel lleoliadau maeth allanol a chadw cronfa gref o ofalwyr maeth yn yr awdurdod lleol.

Yn 2017/2018, roedd angen cyllideb o £7.8miliwn i fodloni anghenion plant o dan ofal yn Sir y Fflint; gwariwyd 65 y cant o hyn ar leoliadau y tu allan i'r sir i 15% o blant o dan ofal yn Sir y Fflint.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn benthyciad di-log o £1.15miliwn o’r rhaglen Arloesi er mwyn Arbed a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac a redir gan Y Lab, partneriaeth rhwng Nesta a Phrifysgol Caerdydd. Nod Arloesi er mwyn Arbed yw hybu arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus ac arbed arian.

Dywedodd Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, Neil Ayling:

"Mae cyllid Arloesi er mwyn Arbed yn gadael i Sir y Fflint fuddsoddi mewn cymorth cynnar hanfodol i deuluoedd mewn argyfwng, ond hefyd i fuddsoddi mewn safon uchel o ofal maeth i roi'r profiad gorau bosibl i blant pan na allan nhw fyw gartref yn ddiogel."

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones:

"Mae perthnasoedd mor bwysig i blant, a dyma sydd wrth galon Mockingbird. Cymuned yn dod at ei gilydd fel teulu estynedig yw hon, gan roi cyfeillgarwch i blant ynghyd â grwp o oedolion i ymddiried ynddyn nhw, gan gynnal perthynas naturiol gyda siblingiaid a theulu."

Dywedodd Lily Stevens, Pennaeth Mockingbird yn y Rhwydwaith Maethu, prif elusen maethu'r DU: "Mae'n wych gweld y buddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cynaladwyedd tymor hir a thwf Mockingbird yn Sir y Fflint. Yn genedlaethol, ar draws 35 o wasanaethau cyfredol yn y rhaglen, y darlun yw bod teuluoedd maeth yn cael budd enfawr o'r gefnogaeth gynyddol y gall clwstwr ei roi. Rydym ni'n rhagweld canfyddiadau tebyg iawn yn Sir y Fflint ac yn edrych ymlaen at weld gwasanaethau maethu eraill yng Nghymru'n ymuno â'r rhaglen."