Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer busnesau

Published: 12/05/2020

Oherwydd y sefyllfa bresennol rydym ni wedi gohirio Sir y Fflint Mewn Busnes 2020.

Mae’r tîm wedi dargyfeirio adnoddau i weithio mewn partneriaeth â Busnes Cymru, ACAS, Rheoli Cyrchfan Sir y Fflint a mentrau cymdeithasol i greu ffilmiau defnyddiol, byr i’r sectorau busnes ac i fusnesau bach yn ystod y cyfnod hwn. 

Mae yna bedwar fideo ar gael ar hyn o bryd, sef:

• Cymorth i fusnesau bach - llif arian 

• Menter gymdeithasol - aros yn gadarnhaol ac iach 

• Awgrymiadau i helpu busnesau bach oroesi 

• Twristiaeth

Gallwch ddod o hyd i’r fideos yma: siryfflintgwobraubusnes.com/cy/FIB-Programme/Ffilmiau-Byr-ar-gyfer-Busnesau.aspx

Mi fydd yna dri fideo arall ar gael cyn bo hir hefyd:

• ACAS - Lles

• ACAS - Cadw Mewn Cysylltiad

• Busnes Cymru - Dal i Siarad