Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith Hanfodol i Wella’r Briffordd

Published: 07/05/2020

Oherwydd y gostyngiad sylweddol o ran lefelau traffig yn ystod y cyfnod hwn, bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal nifer o gynlluniau rheoli traffig a gwella diogelwch hanfodol rhwng mis Mai a mis Gorffennaf. 

Fel arfer, byddai gwaith o’r fath yn achosi tagfeydd sylweddol ac anghyfleustra i ddefnyddwyr y ffordd. Fodd bynnag, bydd y lefelau is o draffig ar hyn o bryd yn caniatáu i’r gwaith gael ei wneud yn ddiogel gyda’r lefel isaf bosibl o amhariad. Caiff gwaith ei fonitro’n agos a’i oruchwylio, a bydd yn cydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol y Llywodraeth.

Mae gwaith wedi dechrau yn Nhreffynnon a’r Fflint, ac mae’n cynnwys:

  • gosod canopïau yn Tower Gardens a gosod cyswllt teithio llesol newydd (troedffordd / llwybr beiciau) (Treffynnon);
  • gwaith rhoi wyneb newydd i’r lôn gerbydau y tu allan i Westy Victoria a’r Orsaf Bysiau (Treffynnon);
  • gwaith uwchraddio’r goleuadau traffig presennol ar yr A548 / Church Street ac adleoli’r llwybr teithio llesol trwy Church Street (y Fflint).

Bwriedir i waith uwchraddio’r goleuadau traffig presennol ar yr A548, Well Hill, Maes Glas, sy’n cynnwys croesfan twcan newydd, ddechrau ar 11 Mai. 

Bydd gwaith adeiladu troedffordd / llwybr beiciau defnydd a rennir oddi ar y ffordd ar hyd yr A5104 rhwng Brychdyn a Saltney yn dechrau ar 18 Mai. Bydd darpariaeth llwybrau cerdded a beicio o’r Strand, Treffynnon, yn cysylltu â Dyffryn Maes Glas yn dechrau ar 26 Mai. 

Bydd rhaglen y Cyngor o roi wyneb newydd ar lôn gerbydau hefyd yn dechrau ar 18 Mai yn Yr Hôb/Caergwrle (A541) yna Brychdyn i Saltney (A5104) a Threffynnon (B5121). 

Ar ddechrau mis Mehefin, bydd gwaith yn dechrau yn Sandycroft i uwchraddio’r goleuadau traffig presennol yn B5129/ Leaches Lane a B5129/Mancot Lane. Bydd croesfan twcan newydd wedi’i chynnwys yn y ddau safle. Bydd system o gamerâu gorfodi traffig yn cael ei gosod hefyd yn ardal Ysgol Gynradd Sandycroft er mwyn mynd i’r afael â pharcio annetholus. 

Ar 8 Mehefin, bydd y Cyngor yn dechrau rhaglen o waith i uwchraddio’r camerâu cyflymder a ganlyn i dechnoleg ddigidol;

  • A5104 Pontybodkin
  • A5119 Sychdyn
  • A548 Maesglas
  • A548 Oakenholt
  • A550 Gladstone Way, Penarlâg
  • A548 Mostyn
  • A549 Mynydd Isa
  • B5129 Pentre

Bydd gwaith ar adeiladu cyfleuster parcio a theithio newydd yn gyfagos i Barth 2 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn dechrau ganol fis Mehefin.

Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd y gwaith gwella hanfodol hwn yn helpu i sicrhau bod rhwydwaith ffyrdd y Sir yn aros yn ddiogel a hygyrch i bob defnyddiwr.

Mae’r gwaith hwn wedi’i ariannu gan Gynllun Cludiant Lleol Lywodraeth Cymru, Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, Grant Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru, Cyllid Metro Gogledd Ddwyrain Cymru a Chyngor Sir y Fflint.