Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyrsiau Magu Plant Dull Solihull

Published: 30/04/2020

Rieni a gofalwyr, mae plant yn brysur yn cwblhau dysgu gartref felly a hoffech chi ddilyn cwrs ar-lein?

Os felly, mae Cyrsiau Magu Plant Dull Solihull ar gael ar-lein AM DDIM!

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gefnogi lansiad Gyrsiau Magu Plant Dull Solihull gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sydd ar gael am ddim ar-lein. Mae'n ymdriniaeth a ddefnyddir yn barod gan lawer o ysgolion a lleoliadau gofal plant o fewn yr awdurdod.

Mae’r cyrsiau rhianta hyn ar gael i BOB preswylydd  ledled Gogledd Cymru i gael gwybodaeth, hyder a sgiliau i gefnogi eu rhianta.

Dyma’r manylion ar gyfer sut i gael mynediad i Gyrsiau Magu Plant Dull Solihull sydd AM DDIM:

a) Ewch i: inourplace.co.uk

b) Crëwch gyfrif gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost a chyfrinair

c) Sgroliwch i lawr i ddewis cwrs

d) Cliciwch ar ‘Already got a discount coupon?’

Dewiswch y cwrs perthnasol a nodwch y cod mynediad – NWSOL 

• Deall Eich Beichiogrwydd

• Deall Eich Babi

• Deall Eich Plentyn

• Deall ymennydd eich plentyn yn ei harddegau 

e) Cliciwch  ‘Apply coupon’

Gellir lawrlwytho tystysgrif ar ôl i’r cwrs gael ei gwblhau, er nad oes yn rhaid i chi wneud yr holl fodiwlau ar yr un pryd – wrth ddychwelyd i’r wefan a mewngofnodi, bydd eich cyfrif yn ‘cofio’ lle rydych chi wedi cyrraedd. 

Mae’r cyrsiau yn gweithio ar liniaduron, cyfrifiaduron personol, ffonau clyfar a thabledi. Sylwer: mae angen porwr modern (e.e. Google Chrome, Firefox, Explorer 10).

Gobeithiwn eich bod yn mwynhau’r cwrs ac mae croeso i chi rannu’r cod mynediad gyda ffrindiau neu berthnasau sy’n drigolion yng Ngogledd Cymru.

Ar gyfer unrhyw faterion technegol, cysylltwch â thîm Dull Solihull ar 0121 296 4448 neu drwy e-bost i solihull.approach@heartofengland.nhs.uk

#SolihullGCymru 

Picture 1.png