Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diogelu ein plant a’n oedolion diamddiffyn

Published: 21/04/2020

Mae angen i ni i gyd ofalu am ein gilydd yn fwy nag erioed ar yr adeg anodd hon. Mae'n arbennig o bwysig ein bod yn gofalu am blant ac oedolion diamddiffyn nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at eu cymorth arferol ar hyn o bryd. 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am gydlynu gwasanaethau amddiffyn plant ac oedolion yn y sir. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag ysgolion, Heddlu Gogledd Cymru, asiantaethau iechyd, meddygon, ymwelwyr iechyd, gwasanaethau eiriolaeth ac asiantaethau eraill i sicrhau bod plant, teuluoedd ac unigolion yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.  

Os oes gennych bryderon neu amheuon am blentyn yn Sir y Fflint yn cael ei anafu, am deulu sydd angen cymorth neu am oedolyn mewn perygl, ffoniwch: 

01352 701000 i adrodd am bryderon mewn perthynas â phlant; 

03000 858858 i adrodd am bryderon mewn perthynas ag oedolion; neu 

y tu allan i oriau swyddfa arferol, ffoniwch y Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd ar: 0345 0533116.

Byddwn yn trafod eich pryderon gyda chi ac yn gofyn am gymaint o wybodaeth â phosibl.  Byddwn yn ymchwilio i’ch pryderon ac, os bydd angen, yn gwneud cynllun i amddiffyn y plentyn neu’r oedolyn.  

Gellir anfon atgyfeiriadau neu ymholiadau Amddiffyn Plant mewn e-bost at ChildProtectionReferral@flintshire.gov.uk.

Gellir anfon atgyfeiriadau neu ymholiadau Amddiffyn Oedolion mewn e-bost at SSDuty@flintshire.gov.uk.

Byddwch yn ymwybodol y caiff y mewnflychau eu monitro yn ystod dyddiau'r wythnos ac yn ystod oriau swyddfa yn unig. 

Rydyn ni am roi sicrwydd i chi ein bod ni i gyd yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein prosesau amddiffyn plant ac oedolion craidd yn parhau ac rydyn ni'n dibynnu ar weithwyr proffesiynol a'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am blant, teuluoedd ac oedolion sydd mewn perygl. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o adnoddau, gwybodaeth a chyngor ar wefan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol: bwrdddiogelugogleddcymru.cymru.