Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ap Traciwr Symptomau COVID-19

Published: 16/04/2020

covid tracker.pngMae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn apelio ar y cyhoedd yng Nghymru i lawrlwytho ap Traciwr Symptomau COVID i helpu’r GIG i ymateb i COVID-19 yng Nghymru.

Gofynnir i bobl ledled Cymru gofnodi eu symptomau dyddiol er mwyn helpu i greu darlun cliriach o sut mae’r feirws yn effeithio ar bobl. Mae’r ap ar gyfer pawb, nid dim ond y rhai sydd â symptomau. 

Wedi’i ddatblygu gan ymchwilwyr yng Ngholeg King’s yn Llundain a chwmni gwyddoniaeth gofal iechyd, ZOE, mae’r Traciwr Symptomau COVID-19 yn cael ei ddefnyddio eisoes gan fwy na 38,000 o bobl yng Nghymru, a mwy na 2 filiwn ledled y DU. Mae pobl yn defnyddio’r ap i dracio eu hiechyd dyddiol ac unrhyw symptomau COVID-19 posib. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr gofal iechyd ac ysbytai.

Bydd data o ap Traciwr Symptomau COVID-19 yn cael eu rhannu’n ddyddiol gyda Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Bydd yn rhoi arwydd cynnar o ble fydd y derbyniadau i ysbytai yn y dyfodol.

I ddarganfod mwy, ewch i: llyw.cymru/ap-olrhain-symptomaur-coronafeirws.