Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhyddhad ardrethi busnes a grantiau ar gyfer busnesau 

Published: 09/04/2020

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi busnesau yn ystod yr argyfwng hwn. 

Bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000 yn derbyn 100% o ostyngiad ar ardrethi busnes yn 2020/21. Os yw eich busnes chi yn dod o fewn y categori hwn ac os nad ydych wedi derbyn bil ‘nil’ gennym ni, gallwch wneud cais ar-lein am y cynllun 100% o ostyngiad ar ardrethi busnes ar siryfflint.gov.uk.

Yn ogystal â’r cynllun rhyddhad ardrethi estynedig ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch, mae dau gynllun grant newydd nad oes rhaid eu had-dalu ar gael ar gyfer bob busnes bach. 

Grant 1 – Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn cael grant o £25,000.

Grant 2 - bydd busnesau sy’n bresennol yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach gyda gwerth ardrethol hyd at £12,000 yn cael grant o £10,000.

Caiff y grantiau eu gweinyddu gan y Cyngor ar ran Llywodraeth Cymru ac os yw eich busnes yn gymwys am grant, llenwch y ffurflen gais am grant ar-lein cyn gynted â phosibl ar siryfflint.gov.uk.  Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais ar-lein, gallwn eich sicrhau y bydd eich cais yn y system ac yn y broses o gael ei gadarnhau cyn i ni gyflwyno’r taliad. Ni fydd gofyn i chi ail-gyflwyno ffurflen arall. 

Gallwch hefyd gysylltu â’n Tîm Cymorth ar 01352 704848 am gyngor a chanllawiau pellach.