Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dim newidiadau i ddiwrnodau gwagio biniau dros y Pasg

Published: 08/04/2020

Fel sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, byddwn yn parhau i wagio’ch biniau du a chasglu’ch deunyddiau ailgylchu yn ôl yr arfer dros y Pasg.

Felly, os ydym ni fel rheol yn gwagio’ch bin du ar ddydd Gwener neu ddydd Llun, byddwn yn dal i’w gwagio ar Ddydd Gwener y Groglith neu Ddydd Llun y Pasg... ni fydd gwyl y banc yn effeithio ar unrhyw beth.

Fodd bynnag, hoffem gymryd y cyfle hwn i’ch atgoffa chi, yn sgil y sefyllfa bresennol, bod y casgliadau gwastraff gardd a gwastraff swmpus wedi’u hatal a bod y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gau.

waste collections.png