Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Defnyddio Theatr Clwyd fel lleoliad rhoi gwaed

Published: 08/04/2020

Bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn defnyddio Theatr Clwyd fel lleoliad rhoi gwaed o 15 i 17 Ebrill. 

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi penderfynu defnyddio llai o leoliadau fel eu bod yn gallu sicrhau bod lleoliadau yn ddiogel.  

Mae’r gwasanaeth yn rhoi mesurau amrywiol ychwanegol ar waith yn y clinigau, gan gynnwys trefniadau glanhau trwyadl, hylendid dwylo effeithiol, mwy o sgrinio rhoddwyr a mesurau cadw pellter i leihau’r rhyngweithio cymdeithasol rhwng unigolion ac i atal lledaeniad COVID-19.

Mae’r sesiynau drwy apwyntiad yn unig. Gallwch wneud apwyntiad ar-lein neu drwy ffonio 0800 252266. Am fwy o wybodaeth am roi gwaed, ewch i welsh-blood.org.uk.