Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Sgam Coronafeirws

Published: 01/04/2020

Mae Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint yn rhybuddio pobl am sgam newydd yn ymwneud â’r coronafeirws.

Mae llawer o bobl wedi bod yn derbyn galwadau digroeso gan unigolion sy’n honni eu bod yn gweithio i’r Cyngor. Mae’r twyllwyr wedi bod yn dweud bod yn rhaid i bobl dalu am gael gwagio eu biniau du, ac wedi bod yn gofyn am fanylion cardiau banc.

Does dim rhaid i chi dalu er mwyn i ni wagio’ch bin du, sgam ydi hwn.

Os ydych chi’n derbyn galwad ffôn o’r fath, rhowch y ffôn i lawr ar unwaith a pheidiwch â siarad efo’r twyllwyr. Mae manylion ein trefniadau casglu gwastraff ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint.