Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Erlyn landlord yn Sir y Fflint am fynd yn groes i orchmynion gwahardd 

Published: 19/03/2020

Mae tîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint wedi erlyn landlord yn llwyddiannus dan Ddeddf Tai 2004 a Deddf Tai (Cymru) 2014, sydd wedi’u llunio i amddiffyn iechyd a diogelwch tenantiaid. 

Cafwyd Mr Abdul Khalid, 103 Ffordd Caer, Shotton, yn euog yn ei absenoldeb o dair trosedd yn ymwneud â’r eiddo hwn. Roedd yr eiddo yn destun dau Orchymyn Gwahardd, un gan dîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint a’r llall gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cafodd Mr Khalid ddirwy o £9,976.60, yn cynnwys costau.

Meddai Prif Swyddog Cynllunio, Amgylchedd ac Economi Cyngor Sir y Fflint, Andrew Farrow:

“Mae hwn yn ganlyniad gwych sy’n dangos bod Cyngor Sir y Fflint yn cadw golwg ar Orchmynion Gwahardd er mwyn diogelu tenantiaid rhag eiddo peryglus. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Sir y Fflint i sicrhau bod tai’r sector rhentu preifat yn cael eu rheoli’n briodol.”