Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trefniadau derbyniadau ysgolion 

Published: 11/03/2020

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo trefniadau derbyniadau arfaethedig i ysgolion ar gyfer 2021/22 ddydd Mawrth, 17 Mawrth.

Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori blynyddol gyda llywodraethwyr ysgol, awdurdodau esgobaethol a chynghorau cyfagos yn ystod mis Rhagfyr ac Ionawr. Roedd yn ymwneud â nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i ysgolion unigol, yn seiliedig ar feini prawf a rheoliadau cenedlaethol. 

Mae’r ymgynghoriad yn ymdrin â threfniadau derbyn llawn yn cynnwys y polisi derbyn, meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, yr amserlen ar gyfer derbyniadau a niferoedd derbyn (h.y. y nifer mwyaf o ddisgyblion i gael eu derbyn gan yr awdurdod derbyniadau i bob grwp blwyddyn). 

Yn Sir y Fflint mae mwyafrif helaeth (tua 96%) o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu diwallu gyda nifer eithaf bychan o apeliadau ac nid oes yna newidiadau arfaethedig i’r trefniadau derbyn. 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: 

"Rwy’n falch bod y rhan fwyaf o blant yn Sir y Fflint, unwaith eto, yn gallu mynychu'r ysgol y maent wedi'i dewis. Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i ddychwelyd eu ceisiadau ar-lein erbyn y dyddiad gofynnol.  Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymarfer ymgynghori diweddar ac rwy’n hyderus y bydd mwyafrif llethol o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu diwallu.”