Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dewch i gwrdd â’n mentoriaid cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc 25 oed a hyn

Published: 12/03/2020

Nawr ein bod wedi cyflwyno ein mentoriaid cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc dan 25 oed – mae’n bryd cyfarfod ein mentoriaid sy’n helpu pobl ifanc 25 oed a hyn - Jeff Wynne a Rob Edwards.

Mae ein mentoriaid yn darparu mentora un i un dwys yn rhad ac am ddim i’ch helpu i nodi rhwystrau sy’n eich atal rhag cael cyflogaeth a chymryd camau ymarferol i’w goresgyn. 

Gyda beth gallwn eich helpu?  Dyma restr i chi ddechrau meddwl:

  • Ysgrifennu CVs
  • Sgiliau cyfweld
  • Cyrsiau 
  • Cymwysterau
  • Lleoliadau gwaith
  • Cysylltiadau â chyflogwyr 
  • Magu hyder
  • Cyfeirio at gymorth
  • Gwirfoddoli

Jeff Wynne and Rob Edwards.jpgMae gan Jeff a Rob sawl blwyddyn o brofiad gwerthfawr rhyngddynt ac maen nhw’n barod, yn fodlon ac yn gallu eich helpu i ganfod y swydd gywir.

Dechreuodd Jeff gyda Chymunedau am Waith ym mis Hydref y llynedd. Cyn hynny bu’n gweithio fel Gweithiwr Cefnogi Anableddau Dysgu, gan gefnogi oedolion ag anableddau difrifol yn eu cartrefi ac yn y gymuned.  Dywedodd Jeff:

“Mae gen i gyfoeth o brofiad o weithio gyda phobl sydd dan anfantais gymdeithasol ac economaidd. Fy rôl fwyaf diweddar yn y sector hwn oedd fel Mentor Cyflogaeth gydag Ymddiriedolaeth Datblygu Wirral - rôl amrywiol a oedd yn cynnwys dyletswyddau cefnogi cyflogaeth (ysgrifennu CVs, sgiliau cyfweld a helpu i chwilio am swyddi) yn ogystal â gweithio yn y gymuned: rhoi talebau banc bwyd, casglu sbwriel yn y gymuned, helpu yn y llyfrgell gymunedol a hyrwyddo beicio cymunedol.  

“Rwyf hefyd wedi cael amryw rolau gyda Chynghorau eraill a’r Adran Gwaith a Phensiynau - mae’r rhain i gyd wedi rhoi profiad i mi o weithio gyda phobl ddifreintiedig yn y farchnad lafur.  Rwyf am ddefnyddio’r holl wybodaeth hon yn fy rôl fel mentor i helpu preswylwyr Sir y Fflint ganfod y swydd iawn iddyn nhw.  Gyda’n gilydd, rydym yn dîm gwych, felly beth sydd gennych i’w golli – cysylltwch a gweld beth gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd.”

Mae Rob Edwards wedi bod gyda’r Tîm Cymunedau am Waith ers 2017. Cyn hynny, bu’n gweithio i Gyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer mewn amryw rolau yn cefnogi oedolion diamddiffyn i gael gwaith drwy’r Rhaglen Dewis Gwaith. Mae hefyd wedi cael rolau uwch, gan reoli’r tîm cyflogaeth â chefnogaeth. 

Dywedodd Rob:

“Mae gen i hanes gyrfa hir o weithio mewn lleoliadau cymdeithasol a chymunedol.  Cefais fy ngeni yn Bahrain a’m haddysgu yn Hong Kong a’r DU cyn ymuno â Lluoedd Ei Mawrhydi a’r Gwasanaeth Tân.

“Ers cwblhau fy Ngradd mewn Astudiaethau Iechyd a Chymunedol ym 1996, mae gen i fwy nag 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda phobl mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd i gyflawni nodau, eu cefnogi a’u helpu. Roedd hyn yn eu galluogi i symud ymlaen yn eu bywydau a theimlo wedi’u grymuso i gyflawni eu nodau, waeth pa mor fawr neu fach oedd y cam, sef beth maen nhw wedi dyheu amdano erioed. Mae hyn yn rhoi boddhad mawr i mi fel unigolyn a hwn yw’r rheswm pam rwy’n mwynhau bod yn rhan o Gymunedau am Waith, mae’r rôl yn amrywiol ac mae’n rhoi boddhad mawr ac mae’n fraint bod yn rhan o daith rhywun. 

“Mae ein tîm yn dîm gwych ac rydym yn gweithio’n dda iawn gyda’n gilydd.  Os ydych chi’n 25 neu’n hyn a’ch bod yn chwilio am help i ganfod gwaith, hyd yn oed os nad ydych yn gwybod lle i ddechrau – dechreuwch gyda ni.  Ffoniwch ni ar 01352 704430.”

I’r rhai ohonoch sydd dan 25 oed – cofiwch fod Dan Wade a Coran Halfpenny-Williams yma i’ch helpu chi.  

Gallwch gysylltu â Dan trwy ffonio neu anfon neges destun i 07880 082558.  Mae Dan hefyd yng Nghanolfan Daniel Owen yn yr Wyddgrug bob dydd Mawrth rhwng 11am a 12 hanner dydd – gallwch alw i mewn i’w weld.  

Gallwch anfon neges destun at Coran neu ei ffonio ar 07342 700851 a gall drefnu apwyntiad i chi, neu os yw’n well gennych, mae Coran yn cynnig sesiwn galw heibio yng nghaffi Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy bob dydd Mawrth rhwng 1pm a 2pm - dewch draw i’w gyfarfod.