Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol Fusnes Pop Yp

Published: 04/02/2020

Mae timau Datblygu Busnes Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi croesawu Ysgolion Fusnes Pop Yp yn y ddwy sir ym mis Ionawr.

Mae’r cwrs hyfforddiant yn siwr o ysbrydoli a helpu pobl sy’n dechrau busnesau bach ac i wneud arian yn yr hyn y maen nhw’n ei garu ei wneud. Mae’r dull a ddefnyddia’r Ysgol Fusnes Pop Yp yn ddull hollol i’r gwrthwyneb i’r dulliau traddodiadol o ddechrau busnes.

Mae’r cwrs yn cynnwys sut i ddechrau busnes am ddim, gwerthiant a’r ochr dywyll o farchnata, tyfu eich busnes, creu gwefan am ddim, taliadau ar-lein, cyfryngau cymdeithasol, sut i ddod o hyd i gwsmeriaid, a’r rhan gyfreithiol a’r 12 egwyddor pop  yp. 

Yn y 21ain Ganrif nid oes angen cynllun busnes arnoch i ddechrau busnes ac mae benthyciadau yn arwain at golli diddordeb pobl yn hytrach na bod o fudd. Mae’r ysgol fusnes pop yp wedi dangos i gyfranogwyr yn Sir y Fflint a Wrecsam sut i ddechrau heb wario unrhyw arian, gwneud gwefan gwych am ddim a chanfod sut i werthu cynnyrch am y tro cyntaf a thu hwnt.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Y Fflint dros Ddatblygiad Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae’r cyrsiau hyfforddi hyn wedi bod yn gyfle unigryw i entrepreneuriaid lleol.  Mae busnesau bach yn rhan hanfodol o’n heconomi leol ac mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ac annog y dull arloesol hwn i helpu pobl ennill profiad a sgiliau a fydd yn eu helpu nhw wrth ddechrau busnes.”

Meddai Samantha Harris wnaeth fynychu’r cwrs hyfforddiant:

“Mae wedi bod yn brofiad hollol wych! Mynychais y cyrsiau yn Wrecsam a Sir y Fflint ac mae wedi bod yn hollol werth yr ymdrech. Pan gyrhaeddais y cwrs ar fy mhen fy hun yn Wrecsam doedd gennyf ddim hyder mewn dechrau busnes gyda’r hyn oedd gennyf yn fy mhen fel y llwybr gorau i fusnes.  Erbyn diwedd yr wythnos roeddwn wedi gwneud ffrindiau gyda phobl o’r un meddylfryd ac yn berchnogion busnes ac roedd fy hyder wedi tyfu ac wedi ehangu fy ngwybodaeth yn sylweddol i fynd allan i’r byd mawr.  Penderfynais gymryd y cyfle i fynychu’r cwrs yn yr Wyddgrug yr wythnos ganlynol yn llawn cyffro gyda’r posibilrwydd o fusnes llwyddiannus yn y dyfodol. Roedd fy syniad ar gyfer busnes wedi newid yn gyfan gwbl ar ôl y cwrs ac roedd wedi fy helpu i ganolbwyntio ar syniad oedd yn amlwg ac yn arbenigol.”

Meddai Amy How, Pennaeth AD a Digwyddiadau ar gyfer yr Ysgol Fusnes Pop Yp:

“Mae’r bythefnos ddiwethaf yn Wrecsam a’r Wyddgrug wedi bod yn anhygoel. Mae’r egni a’r camau y mae cyfranogwyr eraill wedi’u cymryd yn anhygoel, maen nhw wedi rhoi bob dim i’r gweithdy, wedi cymryd camau, ychwanegu gwerth a chyflawni gwerthiant! Mae yna rwydwaith mor fawr o bobl yn dechrau busnesau bach yng Ngogledd Cymru a rwan mae ganddynt y gallu i gysylltu â’i gilydd a symud y rhwydweithiau ymlaen ac adeiladu busnesau gwych.”