Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Cofio'r Holocost 2020

Published: 23/01/2020

Cynhelir dwy funud o dawlech yn Neuadd y Sir, Swyddfeydd y Sir y Fflint, Depo Alltami a Thy Dewi Sant am 11.00am ddydd Llun (27 Ionawr), er mwyn oedi ac adlewyrchu ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost. 

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost (27 Ionawr ) yn ddiwrnod cofio cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig er mwyn cofio am y rhai a ddioddefodd yn yr Holocost, dan Erledigaeth y Natsïaid, ac mewn achosion o hil-laddiad dilynol yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Cafodd ei gynnal am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2001, ac mae wedi bod ar yr un dyddiad bob blwyddyn ers hynny. Mae’r dyddiad yn dynodi pen-blwydd rhyddhau gwersyll crynhoi Auschwitz gan yr Undeb Sofietaidd ym 1945. 

Bob blwyddyn mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn datblygu thema.  Thema’r diwrnod ar gyfer 2020 yw Sefyll ynghyd, ac archwilio sut mae cyfundrefnau hil-laddiad drwy gydol hanes wedi hollti cymunedau’n fwriadol, trwy wthio rhai grwpiau penodol i’r ymylon, a sut all y tactegau hyn gael eu herio gan unigolion sy’n sefyll ynghyd gyda’u cymdogion, a siarad yn erbyn gormes. 

Heddiw, mae rhaniad cynyddol mewn cymunedau ar draws y DU a’r byd. Nawr, fwy nac erioed, rhaid i ni sefyll ynghyd gydag eraill yn ein cymunedau er mwyn atal rhaniad ac atal lledaeniad o elyniaeth yn seiliedig ar hunaniaeth, yn ein cymdeithas.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost 2020 hefyd yn nodi 75 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz a 25 mlynedd ers yr hil-laddiad ym Mosnia.

Trwy gynnal dwy funud o dawelwch, byddwn yn ymuno â miloedd o bobl eraill sy’n dod ynghyd ar draws y DU i gofio’r gorffennol ac ystyried y rhan all bawb ei chwarae i herio casineb a chreu dyfodol mwy diogel a gwell.

I ddarganfod mwy am Ddiwrnod Cofio’r Holocost, ewch i wefan y sefydliad:  https://www.hmd.org.uk/what-is-holocaust-memorial-day/why-mark-hmd/  

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddiwrnod arwyddocaol – mae’n gyfle i ni ddod ynghyd i adlewyrchu a chofio’r rhai a brofodd erchyllterau dychrynllyd. Mae hefyd yn bwysig i ni Sefyll Ynghyd a sicrhau bod y byd yr ydym yn byw ynddo yn ddiogel ac yn rhydd o elyniaeth sy’n seiliedig ar ragfarn”.

 

hmd_logo_white_space_large_welsh.jpg