Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn treialu plastig ar y ffyrdd

Published: 21/01/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn treialu defnyddio plastig sydd wedi’i ailgylchu mewn asffalt i arwynebu darn o’r briffordd yng Nghei Connah.

Mae Swyddogion Sir y Fflint wedi bod yn gweithio’n agos gyda MacRebur “the plastic road company” sy’n cynhyrchu’r plastig wedi’i ailgylchu a Breedon Southern Limited, sy’n cymysgu’r cynnyrch i'r deunydd yn eu safle newydd yn Llai, i weithredu'r treial.  Bydd yr asffalt yn cael ei osod gan Beirianneg Sifil ac Arwynebu Roadway, is-gwmni Breedon Southern Limited.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Rydym yn falch o fod yn treialu’r cynnyrch hwn yn Sir y Fflint, am y tro cyntaf yng Nghymru, fe gredir. Gan weithio gyda MacRebur, rydym yn archwilio'r posibilrwydd o gynhyrchu'r sylwedd i'w ailgylchu i fod yn darmac o'n casgliadau ymyl palmant.”

Dywedodd Sarah, Uwch Reolwr y DU ar gyfer MacRebur:

“Rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu helpu Sir y Fflint a Breedons gyda'u treial o'n nwyddau MR. Mae gan Gyngor Sir y Fflint agwedd wych tuag at arloesedd Economi Gylchol, sydd o fudd enfawr i’r amgylchedd a phoblogaeth Gogledd Cymru. Mae nwyddau MacRebur, sydd nawr yn cael eu defnyddio’n fyd-eang, yn rhoi’r cyfle i Sir y Fflint leihau allyriadau carbon ac echdynnu tanwydd ffosil mewn prosiectau arwynebu, a gall hyn arwain at ailgylchu eu gwastraff plastigion untro a gynhyrchir yn lleol yn y dyfodol agos.”

Meddai’r Cynghorydd Paul Shotton, a oedd yn ffigwr allweddol wrth wthio am y treial:

“Rydym wedi bod yn ceisio treialu’r cynnyrch ers amser maith, a diolch i MacRebur a Breedon Southern Limited, mae wedi digwydd. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae’n perfformio ac a allwn gyflwyno hyn ar draws Gogledd Cymru.  Dylai fod yn gryfach, gan greu arwyneb ffordd fydd yn para’n hirach.”

Bydd y deunydd plastig sydd wedi'i ailgylchu yn cael ei ychwanegu i'r cymysgedd tarmac i ddisodli canran y cynnwys bitwmen. Mae MacRebur wedi bod yn datblygu’r cynnyrch ers sawl blwyddyn ac maent nawr yn gwerthu’r ‘briwsion’ sydd wedi’u hailgylchu i farchnadoedd y DU a thramor.

New Tarmac  (8 of 10).jpg

 

New Tarmac  (1 of 10).jpg      New Tarmac  (5 of 10).jpg  New Tarmac  (6 of 10).jpg