Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Capsiwl amser wedi’i greu yn Ysgol Penyffordd

Published: 07/01/2020

Mae’r ysgol newydd sbon ym Mhenyffordd wedi croesawu ei disgyblion cyntaf ym mis Medi eleni.

Mae’r parth gollwng a maes parcio newydd wedi’i gwblhau a dathlwyd hyn yn ddiweddar drwy blannu capsiwl amser a phlannu coeden diwlip ar safle’r ysgol. 

Mae’r ysgol wedi cymryd amser yn ystod y tymor cyntaf i ddathlu eu hysgol newydd, gan gynnwys Diwrnod Agored i’r Gymuned gyda nifer dda yn bresennol ac roedd y sawl wnaeth ymweld wedi ymateb yn gadarnhaol.  

Mae’r ysgol newydd bwrpasol hon yn ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg i blant 3 – 11 oed ar safle Abbotts Lane ac yn cynnwys ystafelloedd dosbarth ar gyfer 315 o ddisgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol 1 a 2 yn ogystal â neuadd a stiwdio.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Dyma garreg filltir arall wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint.  Mae’r buddsoddiad o bron i £7 miliwn yn darparu cyfleuster modern bendigedig ar gyfer plant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach a bydd yn cynnig profiad dysgu newydd, llawn ysbrydoliaeth i blant ysgolion cynradd.”

Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction:

“Fel contractwr lleol yng Ngogledd Cymru, rydym yn falch iawn o’r prosiect Ysgol newydd ym Mhenyffordd.    Drwy gydol y broses dylunio ac adeiladu, roeddem wedi gweithio’n agos gyda thîm yn Sir y Fflint, tîm yr ysgol a’r gymuned leol i sicrhau ein bod yn diwallu eu holl ofynion a chwblhau’r ysgol ar amser. Mae’r adborth cadarnhaol yn newyddion gwych i’r tim ac yn dyst o’u holl waith caled.   Gyda’r capsiwl amser wedi’i gladdu, gobeithio y bydd yn darparu cymynrodd i’r pentref ynghyd ag adeilad yr ysgol ei hun.”   

Penyffordd Time Capsule (1 of 4).jpg       Penyffordd Time Capsule (2 of 4).jpg        Penyffordd Time Capsule (4 of 4).jpg