Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Dathliadau ar gyfer Pen-blwydd Anne yn 100 oed!

Published: 08/01/2020

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un arall o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig. 

Fe wnaeth y Cynghorydd Marion Bateman gyfarfod â Mrs Anne Mary Ellis (Evans cyn priodi) ar 21 Rhagfyr i ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed. 

Yn drydydd plentyn i Ellen a Will Evans, mynychodd Anne Ysgol Dewi Sant yn yr Wyddgrug.  Gadawodd yr ysgol yn 14 oed i weithio fel nani ym Mae Colwyn i’w pherthynas.  Bu iddi gyfarfod ei gwr, Charles Howells, a phriodi yno.  Cawsant dri o blant, Ursula, Charles Lester a Roger, ganed bob un ohonynt yn y Rhyl.

Bu farw ei gwr ym 1946, a symudodd Anne yn ôl i’r Wyddgrug lle bu hi’n gweithio mewn amrywiaeth o swyddi.  Fe gyfarfu â Jim Ellis a’i briodi ym 1970; bu iddo farw bedair blynedd yn ôl. 

Mae bywyd Anne wedi bod yn brysur ac yn weithgar tu hwnt, mae hi’n nain i 10, yn hen nain i 12, ac yn hen hen nain i 17 – gyda dau arall ar eu ffordd!  

Mae Anne wrth ei bodd yn mynd allan i’r awyr iach i gael cinio.  Mae hi’n graff ei meddwl ac mae ganddi lwythi o straeon am hanesion ei phlentyndod.     Mae hi’n fam, yn nain ac yn hen nain annwyl iawn. 

 

Anne Ellis.jpg